Diwrnod 135: Gweddïo dros genhadaeth plant a theuluoedd (2008)
Hydref 30ain
Diwrnod 135 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
'Molwch yr Arglwydd, am fod yr Arglwydd mor dda! Canwch i’w enw, mae’n hyfryd cael gwneud hynny!' (Salm 135:3).
2008
O dan y pennawd, ‘Olion traed yn y tywod’, adroddodd The Salvationist (13 Medi 2008) ar glwb gwyliau yn Rhosllannerchrugog:
Daeth 16 o blant i’r clwb gwyliau. Y thema oedd olion traed. Yn ystod yr wythnos, dysgon nhw ganeuon mawl, chwaraeon nhw gemau a dewison nhw ‘We Are The Kingdom Kids’ fel y brif gân. Ysgrifennon nhw weddïau hefyd a’u roi ar furlun yn dangos olion traed yn y tywod.
Cafodd yr wythnos ddylanwad ysbrydol mawr ar y plant. Mae hynny bellach yn cael ei adlewyrchu yn eu presenoldeb i wasanaethau’r Sul ac yn eu parodrwydd i gymryd rhan.
[The Salvationist Medi 13eg, 2008, t.16]
Ysgrifenna'r Uwchgapten Melvin Jones:
Roedd Stiwt (Sefydliad y Glowyr) Rhosllannerchrugog eisoes wedi croesawu cerddorion Byddin yr Iachawdwriaeth sawl gwaith. Nifer o flynyddoedd es i i ymarfer yn y Stiwt fel aelod o Fand Pres Byddin yr Iachawdwriaeth Corfflu Wrecsam. Roedd yn ymarfer ar y cyd gyda Chôr Meibion Rhos gan fod cyngerdd ar y cyd ar y gweill. Wrth fynd i mewn i’r ystafell, roeddwn bron methu anadlu oherwydd y mwg y sigaréts ond roedd y côr yn canu fel angylion. Sawl blwyddyn yn ddiweddarach aeth y cymeriad bywiog enfawr Paul Johnson - arweinydd y corfflu yn Rhosllannerchrugog ar y cyd â’i wraig Julie - i werthu War Cry yn y sefydliad. Roedd ei gallu cerddorol, ei hyder tawel a’i natur dwym yn amlwg ar sawl achlysur yn enwedig pan fyddai’n canu caneuon Cristnogol yng nghartref y côr byd enwog hwn.
Gweddi
- Mae’n naturiol i fyfyrio ar y rheini a gafodd ddylanwad ar eich bywyd yn ystod eich blynyddoedd cynnar. Rhowch ddiolch i Dduw amdanynt nawr.
- Gweddïwch dros y rheini sy’n gwneud y gwaith hwn heddiw. Gweddïwch dros genhadaeth plant a phobl ifanc ar hyn o bryd, ym mha bynnag ffordd y mae’n edrych.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.