Diwrnod 134: Gweddïo dros y rheini sy’n wynebu digartrefedd a’r rheini sydd yn eu cefnogi ar y daith (2007)

Hydref 29ain

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 134 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • 'Dewch! Bendithiwch yr Arglwydd, bawb ohonoch chi sy’n gwasanaethu’r Arglwydd, ac yn sefyll drwy’r nos yn nheml yr Arglwydd. Codwch eich dwylo, a’u hestyn allan tua’r cysegr! Bendithiwch yr Arglwydd!' (Salm 134:1 a 2).

2007

Yn ystod ein cyfnod ym Mhencadlys Adran De Cymru (2003-2012) cawsom lawer o gyfleoedd i fod yn rhan o waith Byddin yr Iachawdwriaeth gyda phobl yn wynebu digartrefedd. Roedd gan hostel Tŷ Gobaith yng Nghaerdydd enw da ymysg Llywodraeth Cymru a’r cyhoedd.

Treuliais i a Peter nifer o amseroedd da gyda phreswylwyr Tŷ Gobaith yn ystod achlysuron cymdeithasol a drefnwyd ar eu cyfer. Er enghraifft – cyflwyno tystysgrifau yn cydnabod eu llwyddiannau academaidd a gwylio eu perfformiadau o bantomeimiau. Cawsom hefyd y fraint o arwain gwasanaethau addoli yn Nhŷ Gobaith. Yn aml, byddai eu hymatebion brwdfrydig yn ein herio. 

Roedd hefyd canolfan estyn allan - Tŷ Crichton. Un o’r uchafbwyntiau oedd lansiad cenhadaeth y Bws Porffor. Cafodd fws hen ei brynu a’i adnewyddu i fod yn gefnogaeth symudol i’r digartref. Roedd yn fenter wych. Cafodd y bws ei adnewyddu unwaith eto yn 2011. Yn y seremoni agoriadol, cafodd Peter wahoddiad i’w archwilio. Neidiodd i sedd y gyrrwr gyda gwên ar ei wyneb. Dw i ddim yn siŵr sut y llwyddodd rhywun i gymryd llun ohono ond roedd pawb yn sicr wedi gweld y llun yn yr wythnosau a ddilynodd.

Gweddi

  • Mae digartrefedd yn peri gymaint o ansicrwydd i’r unigolyn sy’n ei wynebu. Gweddïwch dros y rheini sy’n cefnogi unigolion sy’n wynebu digartrefedd a’r heriau sy’n gysylltiedig â pheidio cael cartref parhaol. 

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags