Diwrnod 133: Gweddïo dros Adrannau BP mewn corffluoedd a chymunedau (2006)
Hydref 28ain
Diwrnod 133 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
'Mae mor dda, ydy mae mor hyfryd pan mae brodyr yn eistedd gyda’i gilydd' (Salm 133:1).
2006
Yn 2006, cafodd Syr Tom Jones ei urddo’n farchog gan y Frenhines Elizabeth II am ei wasanaethau i gerddoriaeth. 40 o flynyddoedd yn gynharach, cafodd Tom Jones llwyddiant gyda’i gân Green, green grass of home. Roedd y gân yn adrodd stori dyn yn deffro yn y carchar ar ddiwrnod ei ddienyddiad.
Daeth Syr Tom i angladd dan ofal Byddin yr Iachawdwriaeth yn Gilfach Goch. Yr Uwchgapten Doreen - yn wreiddiol o Gorfflu Pil a Cynffig - oedd yn rhedeg y corfflu yn ei hymddeoliad. Dywedodd iddi arwain angladd mewn tŷ un diwrnod, ac roedd Syr Tom yno fel galarwr. Roedd wedi mynd i’r ysgol gyda’r dyn a fu farw. Yn ystod y gwasanaeth, roedd yn rhaid i’r Uwchgapten ddweud wrth un o’i milwyr a oedd yn siarad, i fod yn dawel ac i ddangos parch. Ar ôl yr angladd dywedodd Syr Tom wrth Doreen, ‘Uwchgapten, dw i’n hoffi’r ffordd rydych chi’n rheoli eich byddin!’
Mae toriad papur newydd o 2006 yn llyfr hanes Corfflu Dinbych-y-pysgod, yn cynnwys y pennawd, ‘Anrhydedd i’r Geidiaid’:
‘Rhoddwyd y Wobr Ddinesig Ieuenctid cyntaf i Hakin 1st Guides am eu gwaith o roi anrhegion Nadolig a bwyd i deuluoedd anghenus dros y 15 mlynedd ddiwethaf. Cafodd y wobr ei roi yn seremoni Diwrnod y Sylfaenydd yn Aberdaugleddau.
‘Yn flynyddol, mae’r Geidiaid yn trefnu ac yn lapio anrhegion a gasglwyd trwy apêl Pasio’r Parsel This Morning. Maent hefyd yn siopa am fwyd ac yn casglu bwyd sy’n cael ei ddosbarthu gyda’r rhoddion trwy Fyddin yr Iachawdwriaeth.
‘Dywedodd Arweinydd y Geidiaid Wendy Barnett bod 66 o deuluoedd wedi derbyn cefnogaeth yn y ffordd hon Nadolig diwethaf ac roedd y Geidiaid yn awyddus i barhau i gefnogi fel hyn yn y dyfodol.’
Gweddi
- Gweddïwch dros y rheini sy’n arwain grwpiau Baden Powell gan ddarparu’r genhadaeth hon i bobl ifanc.
- Diolchwch i Dduw am ymrwymiad yr arweinwyr ac am y bobl ifanc sy’n cael eu dylanwadu ganddynt.
- Rhowch glod i Dduw am y ffyrdd maent yn gwasanaethu eu cymunedau lleol.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.