Diwrnod 132: Gweddïo dros y rheini sy’n gweithio mewn carchardai (2005)

Hydref 27ain

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 132 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • 'Dw i’n mynd i roi achubiaeth yn wisg i’w hoffeiriaid, a bydd ei rhai ffyddlon yn gweiddi’n llawen!' (Salm 132:16).

2005

Bu Bruce (nid ei enw go iawn) bob tro yn heriol. Er gwaethaf ei sgarmesau fel plentyn datblygodd ddicter nad oedd modd ei reoli yn ei arddegau. Cafodd sawl gysylltiad gyda'r heddlu. Roedd yn gyfarwydd iawn â bod mewn trafferth ond cafodd sioc pan gafodd ddedfryd hir mewn carchar yng Nghymru.

Pan gyrhaeddodd cafodd ei gyfweld gan nifer o bobl gan gynnwys Caplan Byddin yr Iachawdwriaeth. Siaradodd y Caplan yn garedig ac yn dyner gyda Bruce gan gymryd sylw o’r ffaith ei fod yn siomedig iawn o fod wedi derbyn dedfryd mor hir. Ar ôl sawl cyfweliad, datblygodd perthynas o ymddiriedaeth rhyngddynt. Roedd modd iddynt felly archwilio pam ei fod yn cael ei hun i mewn i drafferth o hyd o ganlyniad i’w dymer a’i ddicter. Yn y pendraw, sylweddolodd Bruce bod yr holl deimladau hyn wedi dechrau pan gafodd wybod ei fod wedi ei fabwysiadu. Nid oedd yn gallu prosesu ei deimladau am y peth.

Wrth agosáu at ei Nadolig cyntaf yn y carchar, daeth band Byddin yr Iachawdwriaeth i mewn i chwarae carolau i’r carcharorion. Roedd Bruce wedi bod i wasanaethau’r capel yn y gorffennol ond roedd hwn yn wahanol. Roedd hefyd wedi cael ei wahodd i ddarllen stori’r Nadolig yn y gwasanaeth. Gyda help y Caplan, bu’n ymarfer y stori a gwnaeth yn dda iawn ar y noson, er gwaetha’r nerfau. Ar ôl y gwasanaeth, cafodd Bruce nifer o sylwadau da am ei gyfraniad. Helpodd hyn ei hunan-hyder, rhywbeth nad oedd wedi cael profiad ohono o’r blaen.

Bu trobwynt pan ofynnodd a byddai modd iddo ddod o hyd i’w fam fiolegol. Trwy wasanaethau olrhain teuluol Byddin yr Iachawdwriaeth roedd modd dechrau ar y broses o ddod o hyd i’w fam ac roedd y canlyniadau yn rhai llwyddiannus. Roedd yn brynhawn hyfryd wrth i Bruce aros yng Nghapel y Carchar. Daeth y Caplan â’i fam i mewn fel bod modd iddynt gwrdd – y mab nad oedd ei fam wedi ei weld ers iddo fod ychydig wythnosau oed. Er gwaetha’r amgylchiadau roedd gobaith i’r dyfodol o ganlyniad i’r aduniad. 

Yn fuan wedyn, cafodd Bruce ei ad-leoli i garchar arall, ond y tro hwn mae’n benderfynol o newid. Roedd Duw, trwy Fyddin yr Iachawdwriaeth yn helpu Bruce i ailysgrifennu ei stori

Gweddi

  • Gweddïwch dros bawb sydd wedi ailysgrifennu eu straeon trwy waith y caplaniaid carchar. Gweddïwch dros Gristnogion sy’n gweithio mewn carchardai a bydd eu cenhadaeth yn ffordd o greu perthnasoedd gyda’r rheini yn y carchar.

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags