Diwrnod 131: Gweddïo dros ddeffroadau ysbrydol newydd (2004)
Hydref 26ain
Diwrnod 131 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
'O Arglwydd, dw i ddim yn berson balch nac yn edrych i lawr ar bobl eraill. Dw i ddim yn chwilio am euogrwydd nac yn gwneud pethau sy’n rhy anodd i mi. Dw i wedi dysgu bod yn dawel a diddig, fel plentyn bach ym mreichiau ei fam. Ydw, dw i’n dawel a bodlon fel y plentyn sy’n cael ei gario' (Salm 131:1 a 2).
2004
Y flwyddyn hon oedd canmlwyddiant Diwygiad Cymreig 1904. Yn 2004, ysgrifennodd Kevin Adams ac Emyr Jones y canlynol:
‘Nid yw Cymru yr adeg hynny yr un peth â Chymru heddiw. Nid yn unig bod ffasiwn wedi newid ond mae’r gymdeithas ei hun wedi newid. Mae’r dylanwad Cristnogol yr eglwys a'r capel bellach ar ymylon diwydiant Cymreig - sy’n wahanol iawn i’r sefyllfa cyn y Diwygiad Cymreig yn 1904 pan roedd yn ymddangos fel bod Cristnogaeth wrth wraidd y gymdeithas gyda gwasanaethau pregethu yn boblogaidd iawn.’ (A Pictorial History of Revival)
Er gwaethaf heriau’r ganrif newydd roedd Duw yn dal i drawsnewid bywydau, fel y mae’r erthygl ganlynol o 2004 yn dangos. Daw’r erthygl ‘New Age for Ange’, o rifyn dwyieithog Bloedd y Gad, 2004.
‘Fel delwyr cyffuriau ac yn gaeth i gyffuriau, roedd Ange Sampson a’i phartner yn byw bywyd crwydriaid. Yn eu 40au cynnar, roedden nhw’n teithio ar draws Cymru fel gwerthwyr y Big Issue. Yna, tra eu bod mewn maes parcio yn Aberystwyth, llwyddodd cyfarfod annisgwyl i newid ei bywyd.
‘Daeth menyw wedi ei gorchuddio â thatŵs, gyda dreadlocks a bŵts allan o hen Land Rover draw i’n tryc ni.’ ‘Siaradais gyda hi, ac yna dechreuodd Jan ddod draw pob hyn a hyn am baned a sgwrs.’
‘Ar y pryd, doedd Ange ddim yn gallu dod o hyd i unrhyw le i barcio’i thryc dros y Gaeaf. Cynigodd ei ffrind newydd y ei gardd cefn fel lle parcio. Pan aeth Ange draw i dŷ ei ffrind, cafodd syndod i weld croesau ar y wal. “Roeddwn i’n teimlo fel roeddwn i’n toddi, fel gwrach oherwydd roeddwn i’n ymarferydd yr ocwlt. Roeddwn i’n darllen rŵn, tarrot a chrisialau. Trwy fod yn ymarferydd yr ocwlt, roeddwn i’n ddwfn mewn arferion drwg, yn enwedig o ran dibyniaeth. Trwy weld yr holl groesau hyn, roeddwn am weiddi “help!”’
‘Esboniodd Jan pwy oedd Iesu a roddodd gwahoddiad i Ange i fynd i Fyddin yr Iachawdwriaeth ar y dydd Sul. “Es i’r gwasanaethau yn aml wedi meddwi, yn crio ac mewn llanastr ofnadwy” dywedodd Ange. “Ond roedd pobl yn groesawgar iawn.”
‘Ar ôl dianc rhag ei phartner ymosodol o’r diwedd, cysylltodd â Jan, a gynigodd ei fan fel lloches iddi.
‘Y bore canlynol, aeth Ange gyda Jan i wasanaeth brecwast yn yr eglwys yng Ngwesty’r Bae yn Aberystwyth. Roedd y diwrnod hwnnw - Awst 18fed 2004 - yn ddiwrnod nodweddiadol ym mywyd Ange. Ar ôl bwyta brecwast, dechreuodd y grŵp ganu emynau. Yna dechreuodd dwy fenyw siarad mewn tafodau. Mae Cristnogion yn credu bod hyn yn iaith ysbrydol sydd weithiau’n cael ei defnyddio i gyfathrebu gyda Duw.
‘Dywedodd Ange, “Pan nes i sylweddoli hynny, cefais fraw a meddyliais ‘am bobl ryfedd!’ Cododd y gwallt ar fy mreichiau. Es i’n dynn i gyd. Roeddwn i’n mynd i ‘fight o’r flight mode’. Es i ôl fy mag oedd dwy droedfedd o’m blaen. Dechreuais chwysu a chrynu. Gofynnodd y pregethwr: ‘Oes unrhyw un yma heb gael ei bendithio gan yr Ysbryd Glân?’ Rhoddais fy llaw i fyny. Dywedais wrth fy hunain: ‘Beth wyt ti’n gwneud, wyt ti’n wallgo’?’ Yna roddais fy llaw arall i fyny.”
‘Gwahoddodd y pregethwr i’r rheini oedd eisiau perthynas gyda Duw i gerdded ymlaen. Roedd Ange yn benderfynol o adael yr ystafell, ond doedd hi ddim yn gallu. Yn ei dicter, clywodd lais tawel yn dweud: “Beth bynnag mae’n ei gymryd.” Gan nad oedd yn gallu gadael, cerddodd tuag at y pregethwr.
‘“Gweddïodd drosaf a chwympais i’r llawr” dywedodd Ange. “Pan godais, roeddwn i’n wahanol. Roedd fy nicter wedi mynd a dechreuais weddïo gan ddefnyddio tafodau. Roeddwn i’n teimlo mai bwriad fy mywyd oedd clodfori Duw. Ar ôl y gwasanaeth, es i allan i gael sigarét - dyna oedd yr unig ddibyniaeth ar ôl. Doedd gen i ddim chwant yfed na chymryd unrhyw gyffuriau. Doedd gen i ddim symptomau diddyfnu, Duw roddodd hynny i mi. Gweithiais ar y ddibyniaeth sigarét dros yr amser a ddilynodd.”
...‘Ugain o flynyddoedd ar ôl darganfod ei ffydd, mae Ange yn myfyrio ar y gwirionedd a newidiodd ei bywyd ac sydd wedi ei chynorthwyo trwy heriau mwyaf bywyd. Mae’n dweud, “Mae Duw yn fy ngharu yn ddiamod, mae Ef eisiau perthynas gyda fi ac mae’n f’adnabod yn llwyr”.’
Gweddi
- Gadewch i Ddiwygiad 1904 bod wrth wraidd eich gweddïau heddiw. Diolchwch i Dduw am y diwygiad hwnnw.
- Ganrif yn ddiweddarach, roedd Duw yn dal i newid bywydau ac mae’n parhau i wneud heddiw. Clodforwch trwy weddïo dros y rheini rydych chi’n eu hadnabod sydd â stori o newid bywyd. Rhowch ddiolch i Dduw am y ffyrdd y newidiadau y mae Ef wedi eu gwneud yn eich bywyd chi hefyd.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.