Diwrnod 130: Gweddïo dros genhadaeth llety dan gefnogaeth (2003)
Hydref 25ain
Diwrnod 130 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
'Dw i’n troi at yr Arglwydd; dw i’n trio ato ac yn disgwyl yn llawn gobaith. Dw i’n trystio beth mae e’n ddweud' (Salm 130:5).
2003
Mae rhifyn y 28ain o Fehefin, 2003 o’r Salvationist yn sôn am ymweliad Tywysog Charles i Dŷ Gobaith:
‘“Diolch byth am lefydd fel hyn”, dywedodd y Tywysog Charles wrth breswyliwr yng Nghanolfan Byddin yr Iachawdwriaeth, Tŷ Gobaith yng Nghaerdydd. Daeth y Tywysog ar ymweliad yn dilyn gwaith adnewyddu a gostiodd £2.3 miliwn...
Yn dilyn cael ei groesawu, aeth y Tywysog i mewn i’r ystafell fwyta i drafod gyda rhai o’r preswylwyr cyfredol a rhai o’r cyn-breswylwyr. Dywedodd Anthony Quigley wrth y Tywysog am y gefnogaeth sydd ar gael yn Nhŷ Gobaith a sut y mae’r bwyd a’r ystafelloedd wedi gwella ers y gwaith adnewyddu. Esboniodd Greg Prince y ffaith iddo gael ei gyfeirio at y ganolfan gan asiant cyflogaeth leol. Cyrhaeddodd yno fis Ebrill, gan gyfaddef ei fod wedi bod yn “anobeithiol” a bod ganddo ddim le arall i fynd. Dywedodd; “dw i’n falch des i yma a fy mod wedi cael lle yn syth”.
‘Cyn gadael yr ystafell fwyta, siaradodd y Tywysog gyda rhai o staff y gegin cyn gadael ac arwyddo’r llyfr ymwelwyr...
‘Dywedodd Nick Redmore (DHQ) bod Tŷ Gobaith - a agorodd am y tro cyntaf 65 o flynyddoedd yn ôl - wedi ymrwymo i roi “cefnogaeth gyfannol i unigolion, gan roi iddynt y sgiliau angenrheidiol i fyw bywydau annibynnol eto”.
Gweddi
- Mae cenhadaeth llety dan gefnogaeth yn derbyn sylw ein gweddïau heddiw. Gweddïwch dros y staff wrth iddynt helpu a chefnogi pobl sy’n brwydro yn erbyn bywyd a digartrefedd.
- Gweddïwch dros y tîm caplaniaid, sydd â’r nod o ddod ag ymwybyddiaeth o’r ffydd Gristnogol i breswylwyr y canolfannau hyn a phrosiectau tai.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.