Diwrnod 13: Bendith gwerthiant War Cry! a Kids Alive! (1886)
30ain o Fehefin
Diwrnod 13 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Ond na, dw i’n trystio dy fod ti’n ffyddlon! Bydda i’n gorfoleddu am dy fod wedi f’achub i. Bydda i’n canu mawl i ti, Arglwydd, am achub fy ngham’ (Salm 13:5).
1886
Mae iaith o hyd wedi bod yn elfen hanfodol o’n cenhadaeth. Yn amlwg mae hwn yn bwysig wrth ystyried cyfathrebu ond hefyd o ran dangos parch at ddiwylliant cymunedau lleol. Roedd George Scott Railton yn Efengylydd a deithiodd i bedwar ban y byd. Gellid olrhain ei lwyddiant i nifer o bethau gan gynnwys ei allu gydag ieithoedd. Daeth cenhadaeth Railton i ben yng Ngogledd Cymru ar ôl iddo gael galwad i arwain y genhadaeth yng Ngogledd America ond pe bai wedi aros yng Ngogledd Cymru byddai’n sicr wedi dysgu’r Gymraeg.
Wedi i Fyddin yr Iachawdwriaeth gael ei chychwyn yng Nghaernarfon yn 1886, cafodd y Corfflu cyfrwng Cymraeg cyntaf ei sefydlu. Roedd yr aelodau am sefydlu mwy o gorffluoedd cyfrwng Cymraeg yn y Gogledd ond roedd cyn lleied o swyddogion a oedd yn medru’r Gymraeg yn gwneud hynny’n dasg anodd.
Roedd un o hysbysiadau War Cry yn nodi: ‘Wyt ti’n gallu siarad Cymraeg? Os wyt ti, beth am gynnig dy fywyd i Dduw a Byddin yr Iachawdwriaeth er mwyn achub y Cymry. Yng Ngogledd Cymru yn unig, pe bai gennym Swyddogion sy’n medru’r Gymraeg, bydden ni’n gallu agor 20 o gorffluoedd.’
Gweddi
- Gweddïwch dros y rheini sy’n paratoi, golygu a gwerthu War Cry a Kids Alive!.
- Gweddïwch dros swyddogion sy’n medru’r Gymraeg.
- Gweddïwch am dwf yn y nifer o aelodau sy’n medru’r Gymraeg a fydd yn halen a goleuni wrth ddysgu, cyfieithu a rhannu trwy ddefnyddio’r iaith Gymraeg.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.