Diwrnod 129: Gweddïo dros y Drenewydd a Chanolbarth Cymru (2002)
Hydref 24ain
Diwrnod 129 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Maen nhw wedi ymosod arna i lawer gwaith ers pan oeddwn i’n ifanc,’ gall Israel ddweud. ‘Maen nhw wedi ymosod arna i lawer gwaith er pan oeddwn i’n ifanc, ond dyn nhw ddim wedi fy nhrechu i' (Salm 129:1 a 2).
2002
Dyma’r Cennad Tiriogaethol Sam Jones yn rhannu ei thystiolaeth:
‘Yn 2002, derbyniais benodiad fel is-gapten newydd i’r Drenewydd. Doeddwn i ddim yn swyddog newydd wedi’i chomisiynu, yn hytrach roeddwn i mewn rôl newydd i bobl fel fi - pobl oedd wedi cael galwad i arweinyddiaeth ysbrydol ond gyda chymar nad oedd yn teimlo’r un ffordd. Dim ond apwyntiad tair blynedd oedd hon. Ond sut gyrhaeddais y pwynt hwn?
‘Yn 1996, cafodd fy merch brydferth ei geni ac ymhen amser, cymrais i hi i grŵp babanod lleol mewn eglwys. Doeddwn i na’m gŵr yn mynd i’r eglwys; a bod yn onest, doeddwn i ddim wir am gael unrhyw beth i wneud â’r eglwys o ganlyniad i ambell sefyllfa anodd yn ystod fy arddegau. Serch hynny, roedd holl grwpiau i fabanod yn yr ardal yn cael eu rhedeg gan eglwysi...a dyma gyfle i mi gwrdd â rhieni eraill. Yn benodol, gwrddais â chwpl ifanc gyda dau o blant. Roedden nhw’n Gristnogion, ac yn swyddogion ym Myddin yr Iachawdwriaeth.
‘Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd Byddin yr Iachawdwriaeth, heb sôn am beth roedden nhw’n golygu trwy ddweud eu bod yn swyddogion, ond roedden nhw’n bobl neis a datblygodd cyfeillgarwch rhyngom. Roedden nhw’n agored ac yn onest am eu ffydd Gristnogol gan bwysleisio nad oedd y siwrne yn un hawdd. Doedden nhw ddim yn esgus bod ffydd yn Nuw yn golygu bod â hudlath a oedd yn gwneud bywyd yn berffaith. Roeddwn i’n gwerthfawrogi hyn amdanynt.
‘Felly, pan ddaeth pamffledi am gwrs Alpha, a oedd yn cael ei redeg gan y cwpl hwn, trwy’r drws, derbyniais y gwahoddiad. Doedd dim byd perffaith am y cwrs hwn. Roedd y neuadd gymunedol ble gynhaliwyd y cwrs llawer rhy fawr i’r ddau neu dri ohonom a fynychodd. Cymrais fy mabanod gyda fi. Yr ail wythnos, roedd dau ohonom yn bresennol ac yr wythnos ar ôl hynny, aethon ni i dŷ'r swyddogion i wneud y cwrs.
'Ond doedd dim angen ar Dduw i’r cwrs bod yn berffaith neu i’r rheini a oedd yn edrych ar ôl fy mhlant i fod yn berffaith na chwaith i’r bobl oedd yn ateb fy nghwestiynau diddiwedd i fod yn berffaith chwaith er mwyn fy helpu i ddeall mai Duw yw Duw er gwaethaf y ffordd y mae weithiau'n cael ei gynrychioli gan gredinwyr ystyrlon sy'n cario eu creithiau a'u problemau eu hunain.
‘Erbyn diwedd wythnos olaf cwrs Alpha, roeddwn i’n gwybod fy mod i’n Gristion; roeddwn am roi popeth. Doedd fy ngŵr ddim yn hollol siŵr os oedd yn hoffi hyn i gyd! Am ychydig amser roedd yn wrthwynebus pan oeddwn yn mynychu’r eglwys ac yn cymryd y plant. Serch hyn, datblygodd cyfeillgarwch gydag aelodau eraill o'r eglwys a dechreuodd pethau newid. Yn amlwg, ni newidiodd fy mywyd dros nos ac felly weithiau byddwn i’n mynychu’r eglwys ar fore Sul, ar ôl bod allan yn yfed y noson cynt. Ond roedd pobl yn fy ngharu, yn fy nghefnogi ac yn fwy na dim yn cael fy nisgyblu un-i-un ac mewn grwpiau bach.
‘Pan gyrhaeddais Fyddin yr Iachawdwriaeth y Drenewydd, roedden nhw’n trawsnewid i fod yn eglwys gell. Es i gynadleddau am eglwysi cell; fel cwpl, es i a’m gŵr i benwythnos addoli a dysgu Byddin yr Iachawdwriaeth (Roots) gyda gweddill yr eglwys ond doeddwn i ddim wir wedi cael llawer o brofiadau gydag eglwysi Byddin yr Iachawdwriaeth eraill.
'Serch hynny, roedd fy ffydd yn tyfu a fy nghariad at Iesu’n angerddol a thrwy hyn oll yn cael fy nghefnogi gan eglwys fach iawn a oedd yn cwrdd yn nhai ei gilydd yn wythnosol ac yna mewn ysgol leol yn fisol am ddathliadau mwy. Aethon ni trwy dipyn gyda’n gilydd gan gynnwys ceisio annog mwy o rieni bod angen Iesu arnynt yn eu bywydau. Roeddwn i hefyd yn dweud wrth fy nghwsmeriaid yn y siop trin gwallt pa mor dda oedd Duw a sut oedd yn newid fy mywyd!
‘Yna, tua 2000, es i wasanaeth adrannol, digwyddiad rhyfedd iawn, Doeddwn i ddim yn deall llawer ohono. Ond roedd un elfen wedi denu f’sylw. Roedden y Cadlywydd Tiriogaethol wedi creu rôl newydd lle'r oedd pobl yn gallu cynnig bod yn arweinydd heb ei gomisiynu am dair blynedd, hyd yn oed os oedden nhw wedi priodi a bod y partner yn gweithio yn rhywle arall. Wrth imi gerdded adref y noson honno, cefais daeth yn eglur imi, roeddwn i am dreulio gweddill fy mywyd yn dweud wrth bawb am Iesu. Roeddwn i’n cael fy ngalw i fyw yn y ffordd hon.
‘Cefais wahoddiad i fynychu cwrs o’r enw Design for Life er mwyn archwilio fy ngalwad. Roeddwn i’n sicr fy mod am fod yn un o’r is-gapteiniaid newydd hyn ac yna mynd ymlaen i fod yn swyddog. Nid dyma sut oedd pethau i fod i ddigwydd, ond roedd yna bobl ddoeth o’m hamgylch ym mhencadlys yr adran a wrandawodd arnaf gan f’annog a ffeindio ffordd o wneud i bethau weithio, hyd yn oed pan oedd pethau yn anodd.
'Cefais fy nghyflogi yn 2001, gan nad oeddwn i’n gallu mynd i’r coleg hyfforddiant am bythefnos o hyfforddiant gan fod tri o blant bach gen i nawr. Er mwyn i mi allu arwain yr eglwys, cefais fy nghyflogi er mwyn sicrhau roeddwn i’n derbyn arian. Pa mor anhygoel yw hwnna?
‘Teimlais gymaint o gariad a chefnogaeth. Gweithiodd gymaint o bobl mor galed er mwyn sicrhau bod modd i mi fod yn arweinydd ysbrydol. Roedden nhw’n greadigol, yn agored ac yn barod i archwilio pob math o opsiynau, nes i mi gael fy mhenodi i gorfflu’r Drenewydd yn 2002. Dw i’n diolch i Dduw am y cyfle hwn (oni bai ein bod yn cwblhau archwiliadau a chyllidebau!). A bod yn onest, mae sawl agwedd o fod yn arweinydd corfflu fyddai well gen i beidio eu gwneud, ond mae cael y cyfle i rannu'r newyddion da am Iesu gydag eraill yn gymaint o fraint, ac yn sicr, werth pob eiliad.’
Gweddi
- Diolchwch i Dduw am stori Sam a’i gwaith parhaol yn y Drenewydd a’r ardal ehangach wrth iddi rannu Iesu gydag eraill.
- Gweddïwch dros eraill y bydden nhw’n ymateb i alwad Duw i arwain yn ysbrydol, ym mha bynnag ffordd y bydd hynny’n edrych.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.