Diwrnod 128: Gweddïo dros holl gymunedau ffydd Cymru (2001)
Hydref 23ain
Diwrnod 128 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Mae’r un sy’n parchu’r Arglwydd ac yn gwneud beth mae e eisiau, wedi ei fendithio’n fawr. Byddi’n bwyta beth fusot ti’n gweithio mor galed i’w dyfu. Byddi’n cael dy fendithio, a byddi’n llwyddo!' (Salm 128:1 a 2).
2001
Dyma ambell ddetholiad o ‘The North Wales Evangel: An Evangelical Report from the Mountainside and Valleys of North Wales’ gan yr Uwchgapteniaid Arthur ac Audrey Brown. Daw o archif Byddin yr Iachawdwriaeth yn y Ganolfan Dreftadaeth Ryngwladol (ni chofnodwyd mis):
Dydd Mercher 15fed, 2001
‘Heno, daeth dros 50 o bobl ynghyd yn neuadd y Sgowtiaid ac yna aethon ni i Gaergybi i rannu gyda Myra Scrivener ar adeg ei hymrestriad. Yr Uwchgapten Mel Jones arweiniodd y seremoni. Fi ddaliodd y faner. Myra yw’r milwr Byddin yr Iachawdwriaeth gyntaf i gael ei ymrestru yng Nghaergybi ers dros 20 o flynyddoedd! Mae Neuadd y Sgowtiaid wedi ei leoli yng Ngharreg Domas. Mae’r lle hwn prin wedi newid ers inni ddod yma i Gaergybi fel is-gapteiniaid newydd briodi, 44 o flynyddoedd yn ôl. Mae Neuadd y Sgowtiaid yn cael ei logi ar hyn o bryd ar gyfer gwasanaethau’r Sul a’r rhaglen wythnosol o dan arweiniad yr Uwch-sarsiant a Mrs Bert Quick.’
Dydd Sul 26ain, 2001
‘Bore yma, roeddwn i yn Eglwys Bresbyteraidd y Maes Caernarfon... Yn y nos, aeth y ddau ohonom i Gorfflu Rhyl ble arweinion ni wasanaeth Byddin yr Iachawdwriaeth - mae bob tro yn hwyl i arwain gwasanaeth Byddin yr Iachawdwriaeth gyda’r band a’r côr yn cymryd rhan – a’r cyfle i ganu ‘Jesus at the door stands knocking’ ar yr alaw Gymreig ‘Caersalem’ i gyfeiliant band pres Byddin yr Iachawdwriaeth!’
Gweddi
- Gweddïwch dros yr achlysuron hynny ble mae pobl yn dod at ei gilydd gyda chymunedau ffydd eraill yn eich ardal.
- Molwch Dduw am ein brodyr a chwiorydd yn Nuw, a gofynnwch y bydden ni’n dysgu gan ein gilydd.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.