Diwrnod 127: Gweddïo dros ddathliadau Dyma Gariad (2000)

Hydref 22ain

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 127 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • 'Os ydy’r Arglwydd ddim yn adeiladu’r tŷ, mae’r adeiladwyr yn gweithio’n galed i ddim pwrpas. Os ydy’r Arglwydd ddim yn amddiffyn dinas, mae’r gwyliwr yn cadw’n effro i ddim byd' (Salm 127:1).

2000

Dyma’r Uwchgapteniaid Andy a Gwen Cox yn cofio dau achlysur arbennig i ddathlu’r mileniwm:

‘Yn y flwyddyn 2000 cynhyrchwyd sioe gerdd mileniwm gan Graham Kendrick gyda’r enw Hopes and Dreams. Cafodd y sioe ei berfformio gan griw o’r Adran ym Mhort Talbot.

‘Trefnwyd penwythnos gan Fyddin yr Iachawdwriaeth yn Amgueddfa Werin Cymru yn San Ffagan, Caerdydd. Yma, mae adeiladau (e.e. siopau, tai, ysgolion, capeli) yn cael eu hail-adeiladu a’u harddangos yn yr amgueddfa awyr agored. Roedd rhaglen y penwythnos yn cynnwys bandiau, cantorion a chwmnïau canu. Cafwyd pregethu yn y capel a defnyddiwyd yr ysgol ar gyfer dosbarthiadau. Un nodwedd arbennig oedd yn sefydliad y gweithwyr lle'r oedd arddangosfa o dapestrïau yn cael ei arddangos. Roedd y rhain wedi’u gwneud gan grwpiau Cartref a Theulu o gorffluoedd yr adran ac yn darlunio bywyd yn y trefi y daethant ohonynt.’

Y Comisiynwyr Mike a Joan Parker oedd arweinwyr yr adran ar y pryd. Dyma ychydig yn fwy o wybodaeth am y digwyddiad ganddyn nhw:

‘Roedd yn gyfle gwych i allu sicrhau’r lleoliad hwn ar gyfer dathliadau Byddin yr Iachawdwriaeth. Daeth pobl bwysig lleol, gan gynnwys y cyflwynydd newyddion BBC - Sian Lloyd - a agorodd y digwyddiad. Daeth nifer o aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth i’r digwyddiad, ond roedd yr amgueddfa hefyd ar agor i’r cyhoedd ac felly roedd yn ffordd arbennig i ni ledaenu’r newyddion da yn ogystal â rhannu am ein gwaith cenhadol ni.

‘Yn ogystal â chynnwys cerddoriaeth Byddin yr Iachawdwriaeth, gwaith ieuenctid, cymunedol a chymdeithasol cafodd rhai o’r lleoliadau yn yr amgueddfa eu defnyddio ar gyfer cyflwyniadau arloesol. Er enghraifft, defnyddiwyd hen gapel fel lleoliad pregethu i rywun yn edrych fel William Booth. Cafodd rhai digwyddiadau hanesyddol eraill eu hactio hefyd gan gynnwys canu gan yr ‘Hallelujah Lasses” a stori’r efengylydd ifanc, Kate Shepherd. Roedd hi ond yn 17 pan anfonwyd hi gyda menywod ifanc eraill i Gwm Rhondda gan y Cadfridog William Booth.’ 

Gweddi

  • Wrth inni barhau gyda dathliadau Dyma Gariad yn ein 150fed blwyddyn yma yng Nghymru, gweddïwch y bydd ein gobeithion a breuddwydion yn cael eu gwireddu yn y dyddiau i ddod. 

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags