Diwrnod 126: Gweddïo dros brosiectau eiddo (1999)
Hydref 21ain
Diwrnod 126 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'O Arglwydd, wnei di roi llwyddiant i ni eto, fel pan mae ffrydiau dŵr yn llifo yn anialwch y Negef?' (Salm 126:4).
1999
Ar Fawrth 13eg 1999, roedd adroddiad gan Trevor Saunders yn The Salvationist:
‘Agorodd y Prif Ysgrifennydd, Cyrnol Ray Houghton neuadd newydd yng Nghaerdydd Treganna. Roedd y Dirprwy Arglwydd Maer Caerdydd, Harry Herbert hefyd yn bresennol. Roedd y Cyrnoliaid Ray a Judith Houghton yn westeion arbennig am y penwythnos gyda chefnogaeth yr Uwchgapteniaid David (Arweinydd y Corfflu) a Valerie Jones.
‘Yn ystod y seremoni agoriadol cafodd allwedd y neuadd ei roi i’r cyrnol gan y pensaer Martin Sparnon. Ar ôl i’r plac coffa cael ei gyflwyno, agorodd Cyrnol Houghton y drysau. Darparwyd te bwffe gan aelodau’r corfflu ar gyfer y gwesteion ac yna cynhaliwyd dathliad diolchgarwch yn y neuadd newydd.
‘Yn ystod y dathliad cafodd y baneri eu hail-gysegru. Canodd y côr ‘On Holy Ground’ ac ymunodd pawb trwy ddarllen y datganiad cenhadaeth: “Mae Corfflu Caerdydd Treganna o Fyddin yr Iachawdwriaeth wedi ymrwymo i’r gwaith parhaol o ddod â phobl i adnabod cariad Duw, cwrdd ag anghenion ble mae angen a chynnig cyfeillgarwch i bawb yn enw Iesu Grist.”’
Nododd llyfr hanes y corfflu: ‘Costiodd tua £315,000 ac roedd angen morgais o £150,000. Cawsom grantiau gan sawl ffynhonnell o £52,000, ond gweithiodd y corfflu yn galed er mwyn ennill gweddill yr arian. Roedd y siop hefyd yn ffynhonnell arian da.’
Gweddi
- Diolchwch i Dduw am y gefnogaeth y mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn ei derbyn gyda phrosiectau eiddo, trwy godi arian, dylunio ac adeiladau.
- Gweddïwch dros gorffluoedd yr adran ac y bydden nhw’n defnyddio’u hadeiladau yn y modd gorau er mwyn gallu rhannu’r efengyl gyda’u cymunedau.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.