Diwrnod 125: Gweddïo dros Gorseinon (1998)

Hydref 20fed

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 125 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • 'Mae’r rhai sy’n trystio’r Arglwydd fel Mynydd Seion – does dim posib ei symud, mae yna bob amser' (Salm 125:1).

1998

Ysgrifenna’r Uwchgapten David Morgans a’r Capten Judith Morgans am ‘wreiddiau’ eu rôl fel swyddogion: 

‘Ar ôl sawl mlynedd o fod yn filwyr yng Nghorfflu Gorseinon, cafodd ein bywydau ysbrydol eu cryfhau ar ôl mynychu cynhadledd Roots yn Southport. Buon ni yng nghynhadledd Roots sawl gwaith ond ar un o’r adegau hynny, teimlodd y ddau ohonom fod Duw yn ein galw i rôl arwain o fewn Byddin yr Iachawdwriaeth. Serch hynny, roedd ein mamau yn fyw o hyd ac roedd angen cymorth arnynt ac felly penderfynon archwilio posibilrwydd fod yn genhadon. Roedd yr opsiwn hwn yn ein galluogi i ymateb i alwad Duw a gofalu am ein mamau.

‘Yn y cyfnod hwn roedd Coleg William Booth yn ystyried sefyllfa dysgu o bell fel llwybr at fod yn swyddog ym Myddin yr Iachawdwriaeth. Cawsom gyfle i wneud hwn, a chael ein gosod yng Nghorfflu Senghennydd. Roedd hyn yn addas inni oherwydd roedd yn ddigon agos at ein mamau. Cawsom ddigonedd o gefnogaeth gan Goleg William Booth a gan y Pencadlys  Adrannol er mwyn inni allu cwblhau'r hyn a oedd angen inni wneud fel cadetiaid ac arweinwyr.

‘Wrth arwain yn y corfflu a “dysgu wrth weithio” roedd hefyd amser yn cael ei neilltuo yn ystod yr wythnos ar gyfer ein hastudiaethau coleg. Yn ystod ein cyfnod fel cadetiaid roedd hefyd cyfle i ni dreulio amser yn y Coleg.

‘Ar ôl dwy o flynyddoedd, gorffennon ni ein hastudiaethau a chawsom ein comisiynu gyda Sesiwn Ambassadors of Grace yn 2001 a chael ein penodi i Gorfflu Sgiwen. Cawsom hefyd benodiadau yn Nhreforys a Dinbych y Pysgod. Mae wedi bod yn fraint gwasanaethu’r Arglwydd fel swyddogion ym Myddin yr Iachawdwriaeth.’

Gweddi

  • Ydych chi’n gwybod sut y daeth swyddogion eich corfflu chi i wasanaethu Duw trwy Fyddin yr Iachawdwriaeth? Os nad ydych, beth am drefnu sgwrs gyda nhw er mwyn iddynt rannu eu straeon. Gweddïwch y byddech chi’n cael eich ysbrydoli yn y ffordd y mae Duw yn gweithio yn eu bywydau. Gweddïwch hefyd y bydd eraill yn ymateb i alwad Duw.
  • Diolwch i Dduw am ddylanwad Corfflu Gorseinon. Gweddïwch dros ei genhadaeth barhaol.

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags