Diwrnod 124: Gweddïo dros fentrau gweddïo ac astudio’r Beibl (1997)

Hydref 19eg

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 124 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • 'Yr Arglwydd wnaeth ein helpu – Crëwr y nefoedd a'r ddaear' (Salm 124:8).

1997

Yn 1997, dechreuodd yr Uwchgapteniaid Andy a Gwen Cox ddwy fenter gweddïo yn Adran De a Chanolbarth Cymru. Parhawyd hefyd gyda menter flaenorol. 

Tîm Gweddïo Adrannol 

Roedd hyn yn agored i unrhyw berson â chyswllt gyda Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru. Seiliwyd ar Actau 4:24, ‘Ar ôl clywed yr hanes, dyma nhw’n gweddïo gyda’i gilydd’. Gan ddefnyddio cydweddiad ffurfiant tîm pêl-droed, cafodd ei alw’n 4-2-4 ac roedd y darlleniad yn Actau 4:23-31 yn gallu cael ei rannu’n amddiffyniad, canol cae, ymosodiad a chanlyniad. 

Roedd y rheini a oedd yn rhan o 4-2-4 yn derbyn ceisiadau gweddi. Gallai unrhyw un gysylltu gyda chais gweddi a gofyn am weddi benodol. Bob hyn a hyn, byddent yn cwrdd fel adran am gyfnod o gefnogaeth a chydweddïo.

Boreau Gweddi’r Pencadlys Adrannol 

Agorwyd y pencadlys am 7 o’r gloch ar foreau Mawrth i unrhyw un a oedd eisiau gweddïo. Yn bennaf, pobl leol i’r pencadlys oedd yn mynychu ond daeth yn rhan reolaidd o’r rhaglen adrannol yng Nghymru.

Diwrnodau Adrannol i Astudio’r Beibl 

Cafodd y rhain eu sefydlu ddim yn hir cyn inni gyrraedd gan swyddog ieuenctid yr adran ac roedd yn nodwedd arbennig. Penderfynwyd ar Sadwrn yn ystod yr haf a lleoliad penodol er mwyn cynnal yr astudiaeth o’r Beibl. Rydym yn cofio’r astudiaethau yn cael eu cynnal yn Rhydaman, Gorllewin Cymru, Castell Raglan yn y Canolbarth ac yng Nghwm Rhondda. Roedd y diwrnod bob tro yn gorffen gyda barbeciw a chyfeillach gyda’n gilydd.

Gweddi

  • Diolchwch i Dduw am atebion i weddi ac am y rheini sy’n cael eu harfogi a’u hannog trwy fynychu astudiaethau Beiblaidd. 

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags