Diwrnod 123: Gweddïo am ddechreuadau newydd (1996)
Hydref 18fed
Diwrnod 123 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Dw i’n edrych i fyny arnat ti sydd wedi dy orseddu yn y nefoedd' (Salm 123:1).
1996
Mae’r uwchgapteniaid Andy a Gwen Cox yn cofio achlysur ailagor Corfflu Aberdâr.
‘Yn 1996, yn ystod wythnosau cyntaf ein penodiad [fel cyfarwyddwr rhanbarthol dros efengylu ac fel swyddog teuluol rhanbarthol] ym Mhencadlys Adran De Cymru, daeth dyn i’r swyddfa yn dweud ei fod yn teimlo fel bod angen ailddechrau gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth yn Aberdâr. Roedd yn gyn-swyddog [Michael Evan-Yates] ac yn byw gyda’i wraig [Lindy] yn y dre. Gan fy mod i’n newydd yn y rôl, doedd dim glaslun gen i ar gyfer cais o’r fath ac felly roedd angen gwneud bach o ymchwil i weld os oedd modd ailgychwyn y gwaith yno.
‘Ddim yn hir ar ôl y sgwrs, cysylltodd gyda fi er mwyn dweud bod grŵp bach o bobl yn cwrdd yn ei fflat ar gyfer addoliad ar brynhawn dydd Gwener. Es i ymweld â’r cyfarfod a doeddwn i ddim yn gallu credu’r profiad a gefais. Roedd fel mynd yn ôl i’r 1950au. Roedden nhw’n canu ac yn clapio ac roedd ei wraig yn chwarae tambwrin. Roeddent wedi gosod desg ddarllen ar ben bwrdd y gegin fel pulpud.
‘Parhaodd i ddatblygu’r gwaith, yn enwedig ymysg plant. Ceisiodd ei orai i ddod o hyd i offerynnau pres gan gorffluoedd eraill er mwyn dysgu’r plant i chwarae. Llogodd neuadd gymunedol er mwyn gallu gwneud hyn ac ymestyn y gwaith. Yn y pendraw roedd yn cynnal cyfarfodydd yn y neuadd gymunedol a dechreuodd y plant a’u rheini ddod i wasanaethau.
‘Yn ystod y pedair blynedd nesaf, digwyddodd sawl peth. Cynyddodd niferoedd, yn enwedig trwy’r band ieuenctid. Ar un pwynt roedd tri band ieuenctid! Pob Nadolig, cynhaliwyd cyngerdd carolau yn y prif adeilad cyhoeddus yn Aberdâr. Roedden nhw bob tro yn llawn.
‘Nôl yn y pencadlys, roedd y swyddog cysylltiadau cyhoeddus yn codi arian trwy’r Gronfa Datblygu Ewropeaidd. Roedd hefyd yn defnyddio ei gysylltiadau i chwilio am safle addas ar gyfer neuadd i’r corfflu.
‘Ar ein penwythnos olaf yn yr adran ym Mehefin 2000, daeth y Cadlywydd Tiriogaethol i Gymru i agor neuadd newydd sbon corfflu Aberdâr.’
Gweddi
- Diolchwch i Dduw am y rheini sy’n cael eu galw i ailddechrau gwaith mewn ardaloedd lle mae Byddin yr Iachawdwriaeth wedi gweithredu yn y gorffennol.
- Gweddïwch am ddiwygiad yn Aberdâr heddiw.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.