Diwrnod 122: Gweddïo dros Ammanford (1995)

Hydref 17eg

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 122 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • 'Ro’n i wrth fy modd pan ddwedon nhw wrtho i, “Gadewch i ni fynd i deml yr Arglwydd"' (Salm 122:1).

1995

Ysgrifenna’r Uwchgapten Martyn Clements: 

‘Dechreuodd y Corfflu yn Rhydaman yn ystod gwanwyn 1921 a ddaeth yn waith digartref, crwydrol ac Efengylaidd, yn rhentu ystafelloedd mewn adeiladau trwy gydol y dref nes 1927, pan oedd angen i berchnogion y neuadd focsio ailosod eu sied metal. 

‘Rhoddwyd yr adeilad i Fyddin yr Iachawdwriaeth i gael ei ddefnyddio fel y dymunent. Roedd yr adeilad yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer lleoliad parhaol i gorffluoedd Rhydaman a Phontarddulais, ar yr amod bod modd symud y sied metal mawr. Cafodd swyddog corfflu Rhydaman, Capten Warden a swyddog corfflu Gorseinon, Capten Davies, gymorth gan Albert Dedman i ddymchwel y neuadd focsio a’u hailadeiladu yn ddau adeilad er mwyn roi cartref i’r ddau gorfflu.

‘Roedd agoriad yr adeiladau newydd yr un adeg â Gwarchae Mawr Fyddin yr Iachawdwriaeth, ble cafodd pum enaid eu hachub. Rhoddodd yr adeilad newydd gartref i deulu Byddin yr Iachawdwriaeth am dros 50 o flynyddoedd ble cafodd eneidiau eu hachub, plant eu cysegru, pobl ifanc eu comisiynu fel swyddogion ifanc, oedolion eu hymrestru fel milwyr a nifer yn mynd i gwrdd â’r Arglwydd yn y nefoedd.

‘Rhydaman 1995… Wedi blwyddyn o newid, ar ddechrau 1995 roedd y corfflu yn llawn gobaith yn edrych ymlaen at yr hyn oedd yn wynebu’r corfflu'r flwyddyn honno. Yn Ionawr, daeth tri aelod ifanc i’r corfflu ac roedd ffocws mawr ar weddi yn y corfflu. Ym mis Mawrth, roedd cyfle i weddïo dros waith ehangach y corfflu yn y gymuned er mwyn croesawu mwy o aelodau i addoli fel rhan o'r corfflu. 

‘Nod ein hastudiaethau Beibl, gweddi ac addoli oedd gofyn i Dduw am ddewrder i freuddwydio ac anelu’n fawr i allu mynd at wraidd y galon yng nghymuned Rhydaman. Ar ôl y Pasg aethon ni allan i’r gymuned, gan wneud teithiau cerdded gweddi yn gofyn i Dduw ein harwain. Roedd hyn yn ffordd i ni wneud cysylltiadau newydd ac i wneud ffrindiau newydd yn y gymuned ehangach.  

Cawsom help yn ein gwaith estyn allan gan Fand Llanelli, Band Treforys, Band, Côr Ieuenctid a Hŷn Pentre a ddaeth i gynnal gwasanaethau awyr agored. Yn araf bach, daeth mwy o bobl i addoli yn ein gwasanaethau Sul yn ogystal â’n rhaglen wythnosol. 

‘Neilltuwyd Tachwedd i ddiolch i Dduw am yr hyn yr oedd wedi gwneud trwom ac i ddiolch iddo am ateb ein gweddïau. Trefnwyd Sul olaf 1995 yn ddiwrnod i ymrwymo, gosod nodau a gweddïo. Gosodwyd nodau mawr i Rydaman ac ymrwymon ein hunain i Dduw eto gan ymddiried y byddai gwneud pethau gwych. 

‘Yn ystod y cyfnod ymrwymo hwn, awgrymodd un o’n haelodau y dylen ni wneud rhywbeth yng Nghaerfyrddin. Roedden ni’n gweld Duw yn gwneud pethau anhygoel yn Rhydaman - oedd Duw yn gofyn i ni wneud rhywbeth yng Nghaerfyrddin? Daeth Caerfyrddin yn un o’n nodau. 

‘Yn 1996, roeddem yn llawen wrth i Dduw cyflawni’n nodau. Cynhaliwyd y gwasanaeth cyntaf yng Nghapel Tabernacl, Caerfyrddin ym mis Tachwedd 1996. Roedd y festri yn llawn pobl yn addoli gyda ni.’

Gweddi

  • Diolchwch i Dduw heddiw am fendith Rhydaman. Gweddïwch am ddiwygiad yno. 

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags