Diwrnod 121: Gweddïo dros Gwmbrân (1994)

Hydref 16eg

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 121 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • 'Bydd yr Arglwydd yn dy gadw di’n saff ble bynnag ei di, o hyn allan ac am byth' (Salm 121:8).

1994

Agorwyd neuadd corfflu newydd yng Nghwmbrân ar Dachwedd 5ed 1994. Yn y llyfryn yn nodi’r digwyddiad, roedd tipyn o wybodaeth gefndirol ddiddorol:

‘Yn gynnar yn 1992, penderfynwyd ar gynllun ar gyfer yr adeiladu, adnewyddu ac ehangu’r hen neuadd. Y gost amcangyfrif oedd £91,000. Ym mis Tachwedd y flwyddyn honno, derbyniwyd caniatâd cynllunio ar gyfer maes parcio ar y tir cyferbyn â’r neuadd a chytunwyd ar bris o £5,000...

‘Ond o fewn wythnosau roedd popeth yn mynd i newid o ganlyniad i’r namau difrifol i fframwaith y brif neuadd. Aethpwyd ati yn syth i sicrhau nad oedd y neuadd yn cwympo’n llwyr. Ar ôl archwiliadau, daethpwyd o hyd i fframwaith to gwael a bron â bod dim sylfaeni...

‘O ran y sefyllfa ariannol, doedd dim modd trwsio’r adeiladau, ac felly aethpwyd ati i greu cynlluniau ar gyfer neuadd newydd i gynnwys prif neuadd ac ail neuadd gyda phartisiwn rhyngddynt. Ar y pwynt hwnnw, roedd nifer yn meddwl na fyddai’n bosib ail-adeiladu’r neuadd gyfan o ganlyniad i’r gost. Roedd cefn yr adeiladau yn gryf o ran y fframwaith ac felly roedd posibilrwydd y byddai modd ei adnewyddu...

‘Yn ystod y misoedd a ddilynodd, cynhaliwyd sawl digwyddiad codi arian gan gynnwys taith gerdded noddedig o Lunian i Gwmbrân, taith feicio o Land’s End i John o’ Groats a chyngerdd gan Gôr Meibion Pontnewydd...Yna ym mis Medi 1993, cafwyd wybod efallai bod y corfflu yn gymwys ar gyfer cymhorthdal sylweddol gan Ymddiriedolaeth Bradbury wedi’i leoli yn Hong Kong. Os byddent yn llwyddiannus byddai’n bosib cael adeilad gwbl newydd a fyddai’n costio £285,000. Cyflwynwyd cais ac erbyn diwedd mis Tachwedd cafwyd gair y byddai’r Ymddiriedolaeth yn ariannu 50% o'r gost. Atebwyd sawl gweddi a chafwyd nifer o weddïau o ddiolch!’

Yr uwchgapteniaid Derek a Sue Jones oedd arweinwyr y corfflu rhwng 1991-1993 ac ar eu hôl nhw daeth y Capteiniaid Jayne a Jonathan Roberts a oedd yn bresennol pan agorwyd y neuadd newydd. Mae Derek yn cofio sut addasodd y corfflu pan gaewyd yr hen neuadd:

‘Roedd hi’n ddydd Gwener rhwng Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn 1992 a gan nad oedd rhaglen yn rhedeg, es i ac aelod arall o’r corfflu i drwsio ambell astell a chrac yn y nenfwd...Wrth i ni edrych trwy’r crac yn y nenfwd roedd yn amlwg bod sawl crac mwy yn y trawstiau.

‘Roedd y Swyddog Eiddo yn byw yn agos, ac felly ffonion ni fe er mwyn iddo gael edrych ar y niwed. Aeth i mewn i’r neuadd ac edrych ar y crac gan ddweud y geiriau cofiadwy hyn; “Dw i’n mynd i ôl fy het galed o’r car. Allwch chi glirio’r neuadd a rhoi cadwyn ar y drws?” Doedd dim mwy o addoli yn gallu digwydd yn y neuadd o’r diwrnod honno ymlaen. Roedd addoliad i fod mewn deuddydd ac roedd hefyd cynllun gennym i gael parti Nos Calan ond doedd gennym ddim lleoliad.

‘Ni chawsom barti, ond daeth grŵp o aelodau ffyddlon i gartref y swyddogion ar Nos Calan. Roedd nifer ohonom yn llenwi’r tŷ, ond rhoddwyd diolch i Dduw am holl fendithion y flwyddyn a fu gan ymrwymo i ddilyn Duw am y flwyddyn i ddod.

Llwyddon ni gael defnyddio neuadd yr Eglwys Gatholig ar gyfer gwasanaethau bore Sul. Roedd yr eglwys Anglicanaidd leol hefyd wedi gadael i ni fenthyg ei neuadd nhw er mwyn cynnal Ysgol Sul, a gwasanaethau’r hwyr yn ogystal â benthyg y neuadd ar gyfer ymarferion cerddorol, Brownies a Guides yn ystod yr wythnos. Benthycodd yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig eu neuadd ar gyfer cyfarfodydd Home League. Daeth un aelod â hambwrdd bwyd o lyfrau canu, llyfrau tonnau, standiau cerddoriaeth a phob math o eitemau “hanfodol”, heb anghofio rhoi baner y corfflu yng nghefn y car. Am dros ddeunaw mis, llwyddwyd i barhau â gweinidogaeth y corfflu fel crwydriaid.

‘Ar y Sul cyntaf yn neuadd yr Eglwys Gatholig, gofynnais i aelodau’r corfflu edrych o amgylch y gynulleidfa gan gofio pwy oedd yn yr un rhes â nhw, ac os nad oedd y bobl hyn yn bresennol yn ystod y cyfnod i ddilyn, i roi galwad iddynt. Yn ystod y cyfnod hwnnw heb adeilad, ni chollwyd un aelod o’r corfflu - mae hyn yn sicr o ganlyniad i garedigrwydd a gofal aelodau’r corfflu am ei gilydd.

‘Hyd at y diwrnod hwn, dw i ddim yn cael fy nghofio am fy ngofal bugeiliol, fy mhregethu neu fy sgiliau cynllunio a threfnu, ond yn syml fel “y swyddog oedd yma pan gwympodd y neuadd”.’

Gweddi

  • Gweddïwch dros y corfflu yng Nghwmbrân. Fel nifer o gorffluoedd eraill, mae’n gwasanaethu’r gymuned mewn dulliau creadigol ac arloesol. Gweddïwch dros weinidogaeth barhaol y corfflu, dros yr arweinwyr a dros y bobl sy’n cael eu hannog trwy’r rhaglen estyn allan.
  • Gweddïwch hefyd dros y gwaith gyda phobl ifanc. 

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags