Diwrnod 120: Gweddïo dros Ogledd Orllewin Cymru (1993)
Hydref 15fed
Diwrnod 120 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Yn fy argyfwng dyma fi’n galw ar yr Arglwydd ac atebodd fi!' (Salm 120:1).
1993
Yn 1993, roedd tair blynedd wedi mynd heibio ers i swyddogion gael eu penodi i ardal Gogledd Orllewin Cymru gyda’r nod o sefydlu addoliad Byddin yr Iachawdwriaeth yn y gymuned. Roedd tipyn o waith wedi cael ei wneud eisoes gan gyn-swyddogion. Os oedden nhw am gymryd naid ffydd, roedd yn rhai ei wneud mewn modd mawr!
Roedd trefniadau mawr wedi cael eu gwneud ar gyfer y lansiad - cafodd y Côr Staff Rhyngwladol wahoddiad i berfformio yn ystod y penwythnos a oedd yn cynnwys derbyniad dinesig, gŵyl yng Nghadeirlan Bangor a gwasanaeth eglwysi unedig ym Mhrifysgol Bangor. Roedd y penwythnos yn llwyddiant ysgubol. Y Sul canlynol, dechreuodd y gwasanaethau yn y ganolfan gymunedol.
Ar Sul cyntaf corfflu Gwynedd, doedd ganddyn nhw dim cerddoriaeth a dim syniad faint o bobl fyddai’n mynychu chwaith. Doedd y cannoedd a ddaeth yr wythnos flaenorol ddim yno – yn hytrach daeth 13 person dewr. Roedd rhai ohonynt yn meddwl ei fod yn mynd i fod yn debyg i’r wythnos flaenorol ond roedden nhw’n falch o dderbyn hyn yn wobr ffydd. Daeth 14 o bobl yr wythnos ganlynol.
Dros y tair blynedd nesaf, sefydlwyd addoliad ar y Sul, ymrwymodd nifer ac er bod rhai yn teithio pellteroedd, roedd nifer yn awyddus i gael digwyddiadau yn ystod yr wythnos - Astudiaeth Feiblaidd, cyfeillach i fenywod a gweithgareddau i blant. Wrth i’r gyfeillach dyfu, (tua 30-40 o bobl) tyfodd yr effaith ar y gymuned ehangach.
Yn 1993, ar ôl i’r swyddogion fod yn y penodiad am chwe blynedd, roedd yn rhaid iddynt symud ymlaen. Roedd cynlluniau er mwyn sicrhau bod y gyfeillach yn gallu parhau i dyfu o dan arweinyddiaeth newydd.
Gweddi
- Diolchwch i Dduw bod Byddin yr Iachawdwriaeth yn parhau i fod yn fendith yng Ngogledd Orllewin Cymru hyd heddiw.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.