Diwrnod 12: Bendith Abertyleri (1885)
29ain o Fehefin
Diwrnod 12 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Mae geiriau’r Arglwydd yn wir. Maen nhw fel arian wedi ei buro mewn ffwrnais bridd, neu aur wedi ei goethi’n drwyadl’ (Salm 12:6).
1885
Y gred yw y dechreuodd Llynges yr Iachawdwriaeth ar ôl i John Cory rhoi tri bad-hwylio fel anrheg i Fyddin yr Iachawdwriaeth ym Mai 1885. Yn ôl Blwyddlyfr 1977, cenhadaeth y criw oedd mynd ar longau eraill gan ddosbarthu Beiblau, a llyfrau crefyddol eraill yn ogystal â phregethu i longwyr.
Symudodd Corfflu Abertyleri o gwrdd yn yr awyr agored, i ystafell Clwb mewn tafarn ac yna i Neuadd y Farchnad. Fodd bynnag, llwyddon nhw brynu plot o dir a John Cory osododd y garreg-sylfaen. Yna yn 1885, ‘agorodd y Cadfridog y neuadd newydd: caewyd y ffatri dun, a daeth y dynion i weld y Cadfridog...cerddodd pobl filltiroedd i’r cyfarfodydd’.
(War Cry Hydref 14eg, 1885)
‘Mae peth amser wedi mynd heibio ers i filwyr y gwaed a’r tân ddod draw o Bont-y-pŵl i Grymlyn i gynnal cyfarfod yn y dafarn goffi. Cafodd swyddog ei benodi ac fe orymdeithion ni i Abercarn i edrych am ystafell. Llwyddon ni gael darn o dir a benthycodd Mr Cory £100 i ni godi adeilad pren. Codwyd y biliau a dechreuwyd ar y gwaith.’
(War Cry Hydref 28ain, 1885)
Gweddi
- Gweddïwch dros Gorfflu a chymuned Abertyleri wrth iddynt rannu stori Duw trwy addoli, gwasanaethu a gwaith y siop elusen.
- Gweddïwch am adnewyddiad yr ysbryd a oedd yn amlwg pan oedd yr aelodau cynnar yn cynnal cyfarfodydd mewn siopau coffi ac ystafelloedd clybiau tafarn.
- Gweddïwch eto, fel y gwnaethom ddoe, na fyddwn yn rhoi'r gorau i chwilio am gyfleoedd newydd.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.