Diwrnod 119: Gweddïwch dros Aberystwyth (1992)

Hydref 14eg

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 119 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • 'Dw i’n cyflwyno beth dw i’n ofyn amdano i ti. Achub fi fel rwyt wedi addo' (Salm 119:170).

1992

Roedd rhifyn Chwefror 29ain o War Cry yn sôn am hanes cwpl o Aberystwyth: 

‘Roedd Mark a Susan Mainwaring wedi cyrraedd pen eu tennyn. Roedd eu car wedi cael ei ddwyn, roedd cyfradd llog wedi cynyddu yn sylweddol ac ar ôl tri mis o boen a phryder, bu farw tad Mark. “Roedd 1989 bron a chwpla ac roedden ni’n ddigon hapus i wylio eiliadau olaf y flwyddyn yn dod i derfyn”, cofiai Mark, cyfreithiwr yn Aberystwyth. “Roedd hi wedi bod yn flwyddyn drafferthus a dweud y lleiaf.” 

‘O ganlyniad i’r holl siwrneiau i dŷ mam Mark a phwysau gwaith, aeth Mark yn sâl. Doedd e ddim wedi sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa a pharhaodd i weithio nes aeth y poenau yn ei frest yn wael iawn. Cafodd ddiagnosis o bliwrisi. 

‘“Roedden ni ond wythnos i ffwrdd o’r Nadolig - y cyntaf heb dad-cu annwyl gennym” dywedodd Susan, “ond roedden ni’n rhy flinedig ac isel ein hysbryd i allu mwynhau. Roedden ni’n drifftio tuag at ddiwedd y flwyddyn, a gobeithio tuag at amseroedd gwell.”

‘Er bod Mark a Susan yn aelodau o eglwys leol, ac yn teimlo fel bod rhaid iddynt fynychu gwasanaethau, doedden nhw ddim wir yn teimlo fel eu bod yn perthyn yno. Pum mlynedd yn gynharach, roedd Mark wedi cael profiad anhapus a ddinistriodd ei ffydd a achosodd iddo deimlo’n anghyfforddus yn yr eglwys. Teimlodd fel ei fod ar goll mewn anialwch ysbrydol. Gydag ychydig o anhawster, perswadiodd Susan iddo drio eglwys newydd, ond nid oedd Mark yn gallu dod o hyd i’r un heddwch a oedd wedi teimlo yn y gorffennol.  

‘Ar y Sul cyntaf yn 1990, aeth Susan i wasanaeth Byddin yr Iachawdwriaeth yn Aberystwyth. Roedd hi’n grediniol y byddai Mark yn “teimlo’n iawn” gyda Byddin yr Iachawdwriaeth ac fe lwyddodd i berswadio i fynychu gwasanaeth y Sul canlynol.

‘“Penderfynon ni beidio cymryd ein dau blentyn, er byddai band a thambwrinau iddynt fwynhau”, soniodd Susan. Roedden ni wedi synnu - wedi siomi ychydig, mewn gwirionedd - dim ond llond llaw o bobl oedd yna, a doedd dim pianydd chwaith!”

‘Ond cawson nhw groeso cynnes – a chafodd Mark, fel pianydd, ei arwain at y piano yn weddol gyflym. Roedd Susan methu penderfynu os oedd Mark yn mwynhau’r gwasanaeth neu beidio. “Ond doedd dim angen i mi boeni” dywedodd Susan. Ar y ffordd adref roedd y ddau ychydig yn ofalus. Dywedodd Susan, “doedden ni ddim am wneud camgymeriad arall, ond doedd dim llawer o amheuaeth mai Byddin yr Iachawdwriaeth oedd y lle i ni.”

‘Ffurfiwyd cyfeillgarwch newydd, a phan gafodd Mark a Susan eu cofrestru fel aelodau iwnifform yn hwyrach y flwyddyn honno, roedd bron i 40 o bobl yn bresennol. “Mae dod yn aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth wedi ychwanegu dimensiwn newydd i’n bywydau ac mae’n bleser gennym i wasanaethu Duw a Byddin yr Iachawdwriaeth.”’

Gweddi

  • Gweddïwch y bydd Duw yn parhau i arwain pobl newydd i addoli yng Nghorfflu Aberystwyth. 

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags