Diwrnod 118: Gweddïwch dros fandiau pres a’r rhai sy’n gweinidogaethu trwy gerddoriaeth (1991)
Hydref 13eg
Diwrnod 118 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Ti ydy fy Nuw i a dw i’n diolch i ti! Ti ydy fy Nuw i a dw i’n dy ganmol di!' (Salm 118:28).
1991
Ar Fedi 28ain-29ain 1991, dathlodd Band Pres Abertyleri ei ganmlwyddiant. Un o uchafbwyntiau hanes y band oedd saith mlynedd cyn hynny yn 1984. Dyma gofnod o’r hanes yn y papur newydd lleol y South Wales Argus:
‘Mae gan Fand Pres Abertyleri ddigwyddiad pwysig yn y Royal Albert Hall dydd Sadwrn yma...yr un mor bwysig â thîm Casnewydd yn cystadlu yng Nghwpan yr FA yn Wembley.
‘Nid bod y Band Pres yn fand gwaelod cynghrair, yn hytrach y bydden nhw’n cymysgu gyda goreuon Byddin yr Iachawdwriaeth - er enghraifft y Band Staff Rhyngwladol ac eraill o bob rhan o’r wlad...
‘13 aelod sydd yn y band, saith dyn a chwe menyw, gan gynnwys dwy chwaer, dau frawd a brawd a chwaer...
‘Ond mewn cyferbyniad llwyr, bydden nhw mewn ysbyty neu gartref i’r henoed ar y bore Sul – yn lledaenu neges yr efengyl.’
Gweddi
- Rydym wedi bendithio gyda sawl cerddor talentog ym Myddin yr Iachawdwriaeth. Weithiau rydym yn cymryd hwn yn ganiataol. Gweddïwch dros y rheini sy’n rhoi o’u bywydau a’u hamser i gynorthwyo gydag addoliad a lledaenu neges yr efengyl trwy gerddoriaeth.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.