Diwrnod 117: Gweddïo y bydd cariad Duw wrth wraidd priodasau a pherthnasoedd (1990)
Hydref 12fed
Diwrnod 117 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Mae ei gariad tuag aton ni mor fawr! Mae’r Arglwydd bob amser yn ffyddlon. Haleliwia!' (Salm 117:2).
1990
Teitl erthygl yn rhifyn Rhagfyr 29ain o War Cry oedd: ‘Mae Cariad yn Wych: Darlleniad Is-iarll Tonypandy yn newid bywydau’:
‘Bron i ddeng mlynedd ers i George Thomas ddarllen ym mhriodas y Tywysog Charles a’r Dywysoges Diana, mae bellach yn cael ei adnabod fel Is-iarll Tonypandy.
‘Mae ef yn dal i dderbyn llythyron yn sôn am y darlleniad ar y diwrnod hwnnw. Dywedodd wrth War Cry “Derbyniais lythyr arall am y peth yr wythnos diwethaf. Oherwydd bod y briodas wedi cael ei ddangos ar y teledu, sylwodd mwy o bobl ar y darlleniad hyfryd. Cyrhaeddodd gannoedd y llythyron yn gofyn o ba lyfr daeth y darlleniad ac felly dywedais wrthynt - y Beibl. Roedd nifer o'r rheiny a ysgrifennodd ataf wedi synnu.” Awgrymodd Is-iarll Tonypandy, pregethwr lleyg gyda’r Methodistiaid iddynt ddarllen y Beibl.
‘Y darlleniad a ddarllenodd oedd 1 Corinthaidd 13, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel y “bennod cariad”.
‘“Yn eu llythyron, soniodd rai bod y darlleniad wedi newid eu bywydau”, dywedodd Is-iarll Tonypandy.
Gweddi
- Darllenwch 1 Corinthiaid 13. Gweddïwch y bydd cariad wrth wraidd yr holl berthnasoedd rydych chi’n rhan ohonynt.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.