Diwrnod 116: Gweddïo dros weinidogaethau awyr agored a stryd (1989)
Hydref 11eg
Diwrnod 116 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Dw i wir yn caru’r Arglwydd am ei fod yn gwrando ar fy ngweddi. Mae e’n troi i wrando arna i a dw i’n mynd i ddal ati i alw arno bob amser' (Salm 116:1 a 2).
1989
Mewn rhifyn o The Deliverer yn ystod Gorffennaf/Awst 1990, roedd erthygl ynglŷn â’r ‘gwyrth ar y traeth’ a ddigwyddodd yn ystod haf 1989:
‘Roedd yn ddiwrnod tu hwnt o boeth prin yn ystod mis Awst y llynedd ac roeddwn i’m paratoi ar gyfer ein gwasanaeth awyr agored ar y pier ym Mangor, Gogledd Cymru...Roeddwn i wedyn yn ymwybodol o bresenoldeb ymwelydd i’r ardal. Dechreuodd siarad am yr olygfa anhygoel o’r pier, yn cynnwys yr Afon Menai, Llanfairfechan, Penmaenmawr a’r Gogarth yn Llandudno.
‘Tra ein bod ni’n sgwrsio, cafodd ei berswadio i aros am y gwasanaeth a oedd yn dechrau am 19:30.
‘Dechreuodd y gwasanaeth gyda’r dorf yn canu “Since Jesus came into my heart”. Roedd popeth yn mynd yn iawn nes i mi ofyn i’r gynulleidfa am eu hoff emynau. Daeth y dyn y bues i siarad gydag ef yn gynharach i’r blaen a gofyn a oedd modd iddo ddweud rhywbeth.
‘Daeth yn nerfus iawn tuag at y meicroffon a sôn am ei brofiad yn gaeth i alcohol gan ddweud ei fod angen cael ei ryddhau gan rym y ddiod. Gofynnodd a fydden ni’n gweddïo drosto?
‘Wrth inni weddïo, teimlon ni bresenoldeb Duw. Yng nghanol prysurdeb y lle, roedd llais Duw yn amlwg a soniodd am ei greadigaeth newydd trwy Iesu Grist.
‘Fe wnaeth Cristion o eglwys wahanol, a fu hefyd “lawr yr heol honno”, uniaethu gyda’r dyn. Cymrodd e i’r ochr a siarad gydag ef.
‘Aeth y dyn yn ôl i’w cartref gwyliau yn sicr o gariad a thrugaredd Duw a’i bresenoldeb yn ei fywyd...Yn wir, gwelon ni wyrth ar bier Bangor y noswaith honno.’
Gweddi
- Mae gweinidogaeth awyr agored a stryd yn rhan annatod o fywyd Byddin yr Iachawdwriaeth. Gweddïwch dros y rheini sy’n ymwneud â’r weinidogaeth hon.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.