Diwrnod 115: Gweddïo dros weinidogaeth gyda phlant a gwersylloedd haf (1988)
Hydref 10fed
Diwrnod 115 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Boed i’r Arglwydd roi plant i chi; ie i chi a’ch plant hefyd!' (Salm 115:15).
1988
Dyma gofnodion llyfr hanes Corfflu Coedpoeth am ddigwyddiadau amrywiol 1988:
‘Trefnwyd bws i gymryd aelodau’r corfflu i Warrington ar gyfer yr ŵyl bobl ifanc flynyddol. Pobl ifanc ein corfflu ni a enillodd y cwis Beiblaidd. Cafodd y wobr ei rhoi gan Arweinydd yr Adran yr Uwch-gapten D Rayner.’
‘Cymrodd yr Is-gapten Harris bws llawn o blant difreintiedig o ardal San Helen i Gwrt Sunbury am wythnos.’
‘Arweiniodd yr Is-gapteniaid Main ein gwasanaethau.’
‘Mae’r band yn brysur o hyd gyda’r gwasanaeth Cofio yn San Tydfil. Arweinwyr ein corfflu oedd yn arwain.’
‘Casglwyd £911.24 yn chwarae carolau eleni ac roedd y plant mor dda yn y gwasanaeth carolau.’
‘Chwaraeodd y Band carolau yn Rhuthun, y Wyddgrug a phentrefi lleol. Roedden nhw hefyd yn rhan o raglen S4C “Arwyddion Ffyrdd”. Soniodd Mr a Mrs John Morris am waith Byddin yr Iachawdwriaeth adeg y Nadolig.’
‘Roedd ein pobl ifanc yn rhan o wasanaeth carolau'r Adran yn y Neuadd Goffa, Wrecsam.’
Gweddi
- Gweddïwch dros y rheini sy’n rhan o weinidogaeth plant yn Adran Cymru.
- Gweddïwch dros y rheini a fydd yn arwain ac yn staffio gwersyll haf ac y bydden nhw’n cael eu hannog yn eu gwaith.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.