Diwrnod 114: Gweddïo dros y rheini sydd angen cymorth ymarferol (1987)
Hydref 9fed
Diwrnod 114 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Pan aeth pobl Israel allan o’r Aifft – pan adawodd teulu Jacob y wlad lle roedden nhw’n siarad iaith estron – daeth Jwda yn dir cysegredig, ac Israel yn deyrnas iddo' (Salm 114:1 a 2).
1987
Ysgrifennodd yr Is-gyrnol Sandra Moran (wedi ymddeol), cyn swyddog corfflu ac arweinydd Adran De Cymru, y canlynol:
‘Roedd Byddin yr Iachawdwriaeth yn derbyn tipyn o barch yn Abertawe. Un flwyddyn, awgrymodd y cyngor y dylai’r term ‘Gŵyl y Gaeaf’ gael ei ddefnyddio yn lle ‘Nadolig’ rhag ofn bod y term yn sarhaus i grefyddau eraill. Arweiniodd hyn at gymaint o brotestio gan y cyhoedd a chafodd y syniad ei anghofio yn weddol gyflym. Yna cafodd ei hawgrymu bod Byddin yr Iachawdwriaeth yn derbyn triniaeth ffafriol wrth iddynt gael chwarae carolau yng nghanol y ddinas. Eto, doedd y cyhoedd ddim yn hapus. Gadawodd rai o berchnogion y siopau preifat inni chwarae ar eu safleoedd nhw. Erbyn y flwyddyn ganlynol, roedd popeth yn ôl i’r drefn arferol.
‘Yr atgof orau sydd gen i o gefnogaeth y cyhoedd oedd pan ddaeth un dyn ataf un prynhawn Sadwrn tra ein bod ni’n chwarae carolau. Ges i fy synnu braidd. Dywedodd; “Rydw i’n Gristion, ac rydw i’n gwerthfawrogi popeth mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn ei gwneud yma yn Abertawe. Mae’r Arglwydd wedi dweud wrtha i am roi hwn i chi fel diolch.” Roedd yn focs mawr o siocled, ac wrth gwrs, rhannais y siocled gyda gweddill y tîm!’
Ysgrifennodd yr Uwch-gapten Peter Mylechreest (wedi ymddeol), cyn swyddog corfflu yn Ne Cymru, y canlynol:
‘Mae Cymru’n enwog am ei mynyddoedd hyfryd. Serch hynny, yn 1987 roedd mynydd arall yn derbyn sylw o fewn y wasg – mynydd menyn. Roedd cyfanswm enfawr o fenyn yn cael ei gadw gan yr Undeb Ewropeaidd oherwydd ymyrraeth llywodraeth. Roedd y polisïau amaethyddol wedi’u cynllunio er mwyn sefydlogi prisoedd i ffermwyr a phrynwyr a hefyd er mwyn sicrhau bod digon o gynnyrch ar gael. Serch hyn, roedd cynnyrch yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac felly roedd gormod o fwyd yn aml.
‘Cyhoeddodd llywodraeth y DU y bydden nhw’n barod i ddosbarthu’r ormodaeth o fwyd i’r bobl heb swydd, pensiynwyr a rheini ar fudd-daliadau. Gofynnodd y llywodraeth i sefydliadau anllywodraethol gan gynnwys Byddin yr Iachawdwriaeth am gymorth. Aeth loriau’n llawn menyn i gorffluoedd ar draws Cymru. Yn ôl bob sôn, cwympodd platfform un corfflu oherwydd pwysau’r menyn.
‘Mewn un dref, daeth eglwysi a sefydliadau gwirfoddol ynghyd wedi’u trefnu gan Fyddin yr Iachawdwriaeth er mwyn dosbarthu’r 24 tunnell o fenyn. Am fynydd!’
Gweddi
- Rydym yn ddiolchgar bod eraill yn ymddiried ynddon ni i allu rhoi cymorth ymarferol. Gweddïwch y bydd banciau bwyd, a ffyrdd eraill o ddosbarthu cymorth yn cynyddu a bydd gennym ddigon o wirfoddolwyr i wneud hyn.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.