Diwrnod 113: Gweddïo dros Lanelli (1986)

Hydref 8fed

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 113 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • 'Yr Arglwydd sy’n teyrnasu dros yr holl genhedloedd! Mae ei ysblander yn uwch na’r nefoedd' (Salm 113:4).

1986

Ysgrifennodd cyn swyddog Corfflu Llanelli, yr Uwch-gapten Peter Mylechreest (wedi ymddeol), y canlynol:

‘Yn 1986 daeth milwyr a swyddogion o bob rhan o Adran De Cymru a thu hwnt i’r neuadd newydd yn Llanelli ar gyfer angladd swyddog y corfflu Mrs Capten Ann Mylechreest.

Roedd ganddi bersonoliaeth gynnes ac roedd hi’n hwyliog iawn ac felly roedd ganddi nifer o ffrindiau ar hyd y diriogaeth. Ond roedd Ann yn fwy na ffrind da, roedd hi wedi ei harfogi gan wirioneddau’r efengyl. Roedd hi’n caru ei Gwaredwr ac roedd hi’n awyddus bod eraill yn darllen ac yn deall yr ysgrythurau.

‘Roedd hi wedi derbyn hyfforddiant cerddorol ac yn gallu canu amrywiaeth o gerddoriaeth gymhleth. Serch hynny, roedd Ann yn aml yn dewis alawon syml gyda negeseuon Cristnogol clir er mwyn clodfori Duw a bendithio eraill. Cafodd Ann y fraint o ganu unawd mewn gwasanaethau a gafodd eu harwain gan chwech o Gadfridogion Byddin yr Iachawdwriaeth.

‘Fel swyddog ym Myddin yr Iachawdwriaeth, gwasanaethodd yn Llundain, Sussex ac yn y coleg hyfforddiant. Ei chorfflu cartref oedd Portadown yng Ngogledd Iwerddon ac felly roedd ei dealltwriaeth o’r sefyllfa wleidyddol/crefyddol yn ddefnyddiol iawn yn Londonderry a Belfast yn ystod “Yr Helyntion”.

‘Ann oedd cyfarwyddwr Adran Lerpwl a Gogledd Cymru ac roedd nifer o ferched yn dwli arni. Ei hapwyntiad fwyaf hapus oedd yn Llanelli oherwydd dyma ble deimlodd i’w gweinidogaeth flodeuo yn enwedig ymysg menywod. Cafodd ddiagnosis o ganser. Roedd aelodau’r corfflu mor gefnogol. Aeth Ann i fod gyda’i Harglwydd yn heddychlon a gydag urddas.’ 

Gweddi

  • Gweddïwch dros Gorfflu Llanelli a’i waith estyn allan i’r gymuned ehangach. 

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags