Diwrnod 112: Gweddïo dros Grangetown Caerdydd (1985)
Hydref 7fed
Diwrnod 112 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Haleliwia! Mae bendith fawr i’r un sy’n parchu’r Arglwydd ac wrth ei fodd yn gwneud beth mae’n ei ddweud' (Salm 112:1).
1985
Roedd rhifyn Mawrth 2il o War Cry yn cynnwys tystiolaeth gan Mrs Doreen Rogers o Grangetown Caerdydd. Teitl yr erthygl oedd ‘Doreen yn dod o hyd i’w thynged’:
‘Cyn i mi ddarganfod Byddin yr Iachawdwriaeth roedd fy mywyd yn weddol arferol. Roeddwn i’n wraig ac yn fam i dri o blant bach. Roeddwn i’n mynd i’r eglwys bron a bod bob nos Sul, ond os roedd un o’r plant yn dost ac roedd yn rhaid i mi aros adref, roeddwn yn falch o gael esgus i aros adref. Roeddwn i yng nghôr yr eglwys oherwydd roedd yn teimlo’n iawn i gyfrannu rhywbeth i fywyd yr eglwys.
‘O ddydd i ddydd roeddwn i’n nyrs mewn ward geriatrig. Yno, roeddwn i’n teimlo fod yn rhaid i mi fod yn “un o'r merched” a doedd fy iaith byth yn dda iawn. Roeddwn i’n teimlo fod fy ffordd o fyw yn hollol anghywir ond doeddwn i ddim am newid.
‘Un dydd, gofynnodd fy merch os byddai modd i ni fynd i Fyddin yr Iachawdwriaeth. Yn ôl bob sôn, daeth y Capten Hughes i’r ysgol i gynnal gwasanaeth ac roedd fy merch wedi dangos diddordeb. Yn y pendraw, penderfynodd y tri o blant fynd ac fe wnes i benderfynu mynd hefyd.
‘Roedd y tro cyntaf braidd yn rhyfedd, ond es i nôl eto. Yr ail dro, clywais Dduw yn siarad gyda fi ac es i benlinio wrth y sedd trugaredd. Rhoddais fy mywyd iddo. Ar Sul y Pasg 1984 daeth fy mab a’m merch yn filwyr ifanc a des i’n filwr. Rhoddodd Duw ddechreuad newydd imi.
‘Yn y gwaith roedd hi’n anodd iawn. Doeddwn i ddim yn “un o’r merched” rhagor. Roedden nhw’n fy mhrofocio oherwydd roeddwn i’n aelod o Fyddin yr Iachawdwriaeth ond roedd yn rhaid iddynt dderbyn y newid hwn yn fy mywyd.
‘Hanfod bywyd Cristnogol yw tyfu ac roedd yn rhaid imi ddarganfod hwn ar fy mhen fy hunan. Wrth wrando ar gerddoriaeth un diwrnod gadewais i’r Ysbryd Glan gymryd rheolaeth o’m bywyd. Dw i bellach yn teimlo mor gadarn gyda Christ wrth f’ochr. Mae Mark a Ruth bellach yn rhan o fand yr ieuenctid a’r grŵp canu. Mae Sharon sy’n bedair oed yn ysu am gael bod yn filwr ifanc!’
Gweddi
- Gweddïwch dros Gorfflu Grangetown Caerdydd wrth iddynt fendithio’r gymuned ehangach.
- Gweddïwch dros y rheini sy’n newydd i Fyddin yr Iachawdwriaeth. Gweddïwch y bydden nhw’n cael eu hannog yn eu taith ffydd. Os nad ydych yn adnabod unrhyw aelodau newydd, allwch chi feddwl am bobl yn eich bywydau y gallwch wahodd i addoli?
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.