Diwrnod 111: Gweddïo dros y rheini sydd wedi cael eu heffeithio gan streicio (1984)
Hydref 6ed
Diwrnod 111 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Parchu’r Arglwydd ydy’r cam cyntaf i fod yn ddoeth. Mae pawb sy’n gwneud hynny yn gwneud y peth call. Mae e’n haeddu ei foli am byth!' (Salm 11:10).
1984
Ysgrifennodd yr Is-gyrnol Sandra Moran (wedi ymddeol) cyn swyddog corfflu ac arweinydd yr Adran yn Ne Cymru y canlynol:
‘Yn ystod ein cyfnod (Peter a finnau) fel swyddogion yn Nhreharris (1980-1984), roedd y corfflu yn cynnal Gŵyl flynyddol Aberfan. Roedd gan y gymuned a’r corfflu cysylltiad cryf ac roedden nhw bob tro yn cefnogi’r ŵyl. Roedd corfflu'r ieuenctid hefyd wedi cymryd rhan - y band, grŵp canu a’r tambwrinau - a phob adran yn gwneud hynny gyda brwdfrydedd a mwynhad. Roedd yr ŵyl yn amser i gofio’r rheini a effeithiwyd gan y trychineb ond hefyd yn ddathliad o ieuenctid “heddiw”. Soniodd rhai ohonynt am eu profiadau gydag Iesu. Roedd yn brofiad ingol.’
Ysgrifennodd yr Uwch-gapten Peter Mylechreest (wedi ymddeol), cyn arweinydd corffluoedd yn Ne Cymru y canlynol:
‘Roedd ysbryd yn isel ym mhentrefi De Cymru, yn enwedig yn y cymoedd. Roedd diweithdra wedi cynyddu yn sylweddol. Roedd nifer o gwmnïoedd gwaith dur wedi cau ac roedd sôn y byddai pyllau glo yn dechrau cau.
‘Roedd llywodraeth y cyfnod wedi bod yn gwrthwynebu undebau llafur. Daeth i ben llanw gyda gweithredu diwydiannol yn Swydd Efrog a hynny yn erbyn cynnig y Bwrdd Glo Cenedlaethol i gau’r mwyafrif o byllau ym Mhrydain. Lledaenodd y streic i’r holl byllau, gan gynnwys y pyllau yn Ne Cymru. Cafodd y streic ei ddatgan yn anghyfreithlon ym mis Medi 1984.
‘Roedd Byddin yr Iachawdwriaeth mewn sefyllfa letchwith. Doedd ganddyn nhw ddim cysylltiadau gwleidyddol ond roedd teuluoedd yn dioddef o ganlyniad i weithredoedd gwleidyddol. Byddai anwybyddu’r bobl hyn wedi bod yn groes i nod y sefydliad; “calon i Dduw, llaw i ddyn”. Ond byddai cefnogi terfysg anghyfreithlon yn torri cyfreithiau’r wlad.
‘Cyn streic y glowyr, roedd y mwyafrif o gorffluoedd yn cynnig cefnogaeth i bobl mewn angen. Roedd y niferoedd hynny wedi cynyddu’n sylweddol. Roedd corffluoedd hefyd wedi cael hi’n anodd cynorthwyo gymaint o bobl.’
Gweddi
- Rydym wedi gweld mwy o streiciau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gweddïwch dros y rheini sydd wedi cael eu heffeithio gan streiciau.
- Gweddïwch y bydd datrysiad yn cael ei gynnig i bawb sydd ynghlwm.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.