Diwrnod 110: Gweddïo dros Ogledd Ddwyrain Cymru (1983)
Hydref 5ed
Diwrnod 110 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Dywedodd yr Arglwydd wrth fy arglwydd, “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi wneud dy elynion yn stôl dan dy draed di' (Salm 110:1).
1983
Dyma rai o benawdau o rifyn Cymraeg Bloedd y Gad a gafodd ei gynhyrchu ar gyfer Eisteddfod Llangefni. Cafodd y mwyafrif o sylw ei roi i Ogledd Ddwyrain Cymru.
- Cymru i’r Iesu
- Gad Lef
- Eisteddfod Llangefni 1983
- Cyfarchiad Douglas H Rayner Gadlywydd Adrannol
- Ymgyrchu Yng Ngogledd Cymru Yn 1983
- Diwygiad yn Rhosllannerchrugog
- Arloesi yn Llandudno
- Mwy Am Y Diwygiad
- Golygyddol
- RHYL yn dal i fynd
- Ynglŷn â Chefn Mawr
- Bws Mini
- Gwaed A Thân: Llyfr Newydd ar hanes Byddin yr iachawdwriaeth
- Hanes Cynnar Y Fyddin
- Hanes Y Fyddin Yng Nghymru, gan John Morris, Coedpoeth
Dyma ddarn ysgrifennodd un o gyn swyddogion corfflu Llanelli, Major Peter Mylechreest (wedi ymddeol):
‘Yn 1983 prynodd Cyngor Bwrdeistref Llanelli neuadd Byddin yr Iachawdwriaeth ar gyfer datblygu heolydd. O ganlyniad i hynny, roedd aelodau’r corfflu yn Llanelli eisiau neuadd newydd, un oedd wedi’i adeiladau’n bwrpasol ac yn addas ar gyfer addoliad a gwaith cymunedol. Roedd cynlluniau corfflu yn fwy drud na’r arian cawson nhw gan y cyngor ac felly dechreuodd y corfflu godi arian mewn sawl ffordd.
‘Roedd rhai o’r gweithgareddau yn cynnwys neidiau parasiwt gan swyddog y corfflu ac ambell aelod arall. Cawson nhw gyfarwyddiadau ym maes awyr Abertawe ynglŷn â sut i reoli’r parasiwt, y ffordd gywir o lanio a phryd i dynnu’r cortyn argyfwng!
‘Tra eu bod yn cerdded tuag at yr awyren chwaraeodd ensemble yr emyn “Nearer my God to Thee”. Yn ffodus, aeth bob dim yn iawn. Dyma ambell bennawd o bapurau newydd lleol: “Heavens above, it’s the Salvation skydivers”, “Coming in on a wing and a prayer” and “Salvationists put faith in a sky dive”. Roedd hefyd erthygl ym Mloedd y Gad gyda’r teitl “Naid Ffydd”.
‘Llwyddodd y digwyddiad i gasglu swm sylweddol o arian a roddodd hwb i waith Byddin yr Iachawdwriaeth. Dywedodd un o’r rheini a wnaeth neidio, “Roedd yr olygfa dros y Gwŷr yn anhygoel”. Dywedodd un arall, “Roedd hi’n brofiad mor heddychlon”. Dywedodd y llall gyda gwên, “Doeddwn i bendant ddim yn meddwl am fy ngwaith!”
‘Tair blynedd yn ddiweddarach, yn 1986, cafodd yr adeilad newydd ei agor yn swyddogol.’
Gweddi
- Gweddïwch dros bawb sy’n clodfori Duw yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.