Diwrnod 11: Dechreuadau newydd a chyfleoedd newydd (1884)
28ain o Fehefin
Diwrnod 11 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Ydy, mae’r Arglwydd yn gyfiawn. Mae’n caru cyfiawnder, a bydd y rhai sy’n byw’n gywir yn cael gweld ei wyneb’ (Salm 11:7).
1884
Roedd John Lawley, Swyddog Rhanbarthol Cymru, o hyd yn edrych am gyfleoedd a lleoliadau newydd i ymestyn y gwaith. Nid wnaeth diffyg adnoddau, gan gynnwys adeiladau, effeithio ar dwf Byddin yr Iachawdwriaeth.
Dechreuodd gwaith yng Nglyn Rhedynog trwy gynnal cyfarfodydd ar ochr y mynydd. Yn y pendraw llogwyd neuadd yr eglwys a hen siop i gynnal cyfarfodydd. Yn 1884, dechreuwyd y gwaith o adeiladu neuadd y byddai’n gallu dal 600 o bobl.
Wynebodd Corfflu Abertyleri tipyn o heriau yn ystod ei flynyddoedd cynnar. Yr her fwyaf oedd y ffaith nad oedd ganddynt farics. Ond dywedodd yr aelodau: ‘Fe wnaethon ni gwrdd o dan do'r Tad, ac er i’r eira gwympo, roedd gennym gynulliadau mawr’ (War Cry Mawrth 1af, 1884)’
Gweddi
- Gweddïwch na fyddwn byth yn peidio chwilio am gyfleoedd newydd i rannu’r newyddion da am Iesu gydag eraill.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.