Diwrnod 109: Gweddïo dros y rheini sydd wedi ymateb i alwad Duw i fod yn swyddog ym Myddin yr Iachawdwriaeth (1982)

Hydref 4ydd

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 109 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • 'Ond bydda i’n canu mawl i’r Arglwydd; ac yn ei ganmol yng nghanol y dyrfa fawr. Mae e’n sefyll gyda’r un sydd mewn angen, ac yn ei achub o afael yn rhai sy’n ei gondemnio' (Salm 109:30 a 31).

1982

Ar Fehefin 25ain 1982, bu farw'r Brigadydd Ivy Roberts (née Lewis). Daeth yn wreiddiol o Ddinas Rhondda ac aeth o gorfflu Caerdydd 5 i fynychu’r coleg hyfforddiant yn 24 mlwydd oed. Ni ddatblygodd y cysylltiad rhamantaidd oedd rhyngddi a swyddog ifanc arall ond daeth o hyd i gariad a phriodi chwe blynedd ar ôl iddi ymddeol. Yn ystod y blynyddoedd hynny, gweithiodd yn galed iawn. Dyma restr o’i hapwyntiadau gan y Ganolfan Dreftadaeth Ryngwladol: 

  • 1935 Llundain 
  • 1938 Southsea
  • 1939 Southampton
  • 1942 Bradninch
  • 1944 Caeredin 
  • 1946 Caerdydd
  • 1948 Dundee
  • 1949 Cheltenham
  • 1949 Sheffield
  • 1950 Llundain
  • 1950 Johannesburg (Hostel i Fenywod)
  • 1951 Johannesburg (Cartref i Fechgyn)
  • 1952 Johannesburg (Cartref i Ferched)
  • 1954 Johannesburg (Cartref i Famau heb eu priodi)? Inglenook
  • 1958 Buxton
  • 1959 Bryste
  • 1960 Llundain (Asiantaeth Cyflogadwyedd) 
  • 1961 Llundain (Cartref i Blant)
  • 1962 Lerpwl
  • 1967 Brighton (Hassocks)
  • 1970 Ymddeol

Gweddi

  • Gweddïwch dros y swyddogion rydych chi’n eu hadnabod. Defnyddiwch y cyfle hwn i anfon neges atynt yn dweud wrthynt eich bod wedi gweddïo drostynt heddiw.

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags