Diwrnod 108: Gweddïo dros Rhisga (1981)
Hydref 3ydd
Diwrnod 108 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Gyda Duw gallwn wneud pethau mawrion – bydd e’n sathru ein gelynion dan draed!' (Salm 108:3).
1981
Roedd gwaith ieuenctid gwych yn cael ei wneud gan gorfflu Pontymister ac roedd y gymuned ehangach yn tyfu hefyd. Roedd gan gorfflu Abercarn adrannau cerddorol gwych. Cyfunodd y ddau gorfflu dan arweiniad yr Is-gapteniaid Mike a Joan Parker er mwyn ffurfio corfflu Risga. Dyma hanes y corfflu yn perfformio sioe gerdd Gowans a Larsson, Hosea, ym mis Tachwedd 1981:
‘Wedi deufis o waith caled roedd y cynhyrchiad terfynol yn llwyddiant ysbrydol ac ariannol. Dros bedwar noswaith daeth cyfanswm o tua 1,000 o bobl, gyda dros 30 o bobl yn ymrwymo i Dduw - am wyrth.
‘Doedden ni ddim yn ymwybodol bod un o’r milwyr wedi cymryd yr amser i ysgrifennu i’r Cadfridog Arnold Brown. Mae’n galonogol ei fod yn ymwybodol o’r datblygiadau yma yn Risga.’
Fy nghymrawd annwyl,
Roeddwn i’n falch iawn o dderbyn eich llythyr a darllen am y ffyrdd mae Ysbryd Duw yn gweithio yn eich corfflu.
Rwy’n gobeithio ac yn gweddïo y bydd ffydd a gwaith caled yn arwain at neuadd fwy, mae’n amlwg eich bod chi angen hynny.
Rwy’n bwriadu anfon eich llythyr ymlaen at y Comisiynydd Prydeinig. Rwy’n gwybod y bydd e hefyd yn awyddus i glywed yr adroddiad calonogol hwn o Gorfflu Rhisga.
Bydded i Dduw eich bendithio o hyd.
Yn ddiffuant,
Arnold Borwn
Rhagfyr 9fed 1981
Mae Mike a Joan Parker, sydd bellach yn gomisiynwyr wedi ymddeol, yn rhannu mwy o hanes y sioe gerdd:
‘Daeth teuluoedd cyfan i’r digwyddiad ac yna daethon nhw i addoli yn y corfflu a dod i ffydd. Cymrodd un o'r teuluoedd ran yng nghyngres Llundain 1982. Sawl blwyddyn yn dilyn y cyfuniad symudodd y corfflu i mewn i’w neuadd newydd ar yr un safle a’r neuadd flaenorol. Mae’n parhau i fod yn gorfflu bywiog a gweithgar yn y gymdeithas.’
Gweddi
- Gweddïwch y bydd Duw yn parhau i fendithio gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth yn Rhisga.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.