Diwrnod 107: Adfyfyrio ar y gorffennol (1980)
Hydref 2il
Diwrnod 107 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Gadewch i’r rhai mae’r Arglwydd wedi eu gollwng yn rhydd ddweud hyn, ie, y rhai sydd wedi eu rhyddhau o afael y gelyn' (Salm 107:2).
1980
Ysgrifennodd y Comisiynwyr Mike a Joan Parker (wedi ymddeol):
‘Cafodd y Cadlanc George Price a’i wraig eu penodi i Gorfflu Treharris ar gyfer eu penodiad haf. Roedd dalgylch y corfflu yn cynnwys Aberfan. Mewn ymateb i’r trychineb a ddigwyddodd yn Aberfan ar Hydref 21ain 1996, dechreuodd Gŵyl Flynyddol Aberfan gyda'r pwrpas o godi arian ar gyfer gwaith yn y gymuned.
‘Dathlwyd pen-blwydd yr ŵyl yn 5 mlwydd oed yn 1980. Yn ystod y blynyddoedd cafodd y digwyddiad gefnogaeth gan sawl aelod o Fyddin yr Iachawdwriaeth o du allan i’r ardal, gan gynnwys y band o Gorfflu Bryste Easton. Roedd yr ŵyl yn ddigwyddiad o lawenydd ond cafwyd cyfnodau o dawelwch a myfyrdod i gofio am y trychineb yn 1966 pan gollwyd 144 o bobl gan gynnwys 116 o blant Ysgol Iau Pantglas.’
Yn 1980, rhoddodd Dr Martyn Lloyd-Jones ei bregeth olaf...Bu gynt yn feddyg ar Stryd Harley a heb amheuaeth, daeth a’i sgiliau diagnostig i’r pulpud. Roedd yn hynod angerddol dros yr ysgrythurau a disgrifiwyd ei bregethu fel ‘rhesymeg ar dân’. Ysgrifennodd Christopher Catherwood:
‘Roedd Lloyd-Jones yn gymysgedd anghyffredin o ddealltwriaeth ac emosiwn tanllyd. Mae’n deillio’n ôl i’w fagwraeth Gymreig.
‘Yn ystod ei weinidogaeth, erfyniodd Dr Lloyd-Jones ar Gristnogion i wybod eu hanes, yn enwedig hanes yr Eglwys.’
Roedd ei barch tuag at hanes yr Eglwys yn amlwg fel sydd i’w weld yn ei ragair yn y llyfr Evangelicalism in England gan EJ Poole-Connor: ‘Mae gennym hanes hir a chyfoethog a oedd yn bodoli cyn ymweliadau DL Moody a John Wesley. Rydym wedi etifeddu ac yn geidwaid treftadaeth amhrisiadwy.’
Wrth i ni ystyried ein hanes hir a chyfoethog ni, mae’n rhaid i ni gofio ein bod wedi etifeddu ac yn geidwaid treftadaeth amhrisiadwy. Mae stori’r gorffennol wedi bod yn anhygoel ac mae’r dyfodol yn aros i gael ei ysgrifennu.
Gweddi
- Diolchwch i Dduw am ein hetifeddiaeth gan Grist gan ofyn iddo ein hatgoffa mai ef yw ffynhonnell ein llawenydd a chryfder wrth i ni symud ymlaen i’r dyfodol.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.