Diwrnod 106: Gweddïo dros Treganna Caerdydd (1979)
Hydref 1af
Diwrnod 106 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Haleliwia! Diolchwch i’r Arglwydd! Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd' (Salm 106:1).
1979
Yn y llyfr: Forth in Thy Name: A History of Cardiff Canton Corps 1879-1979, mae Keith Griffin yn nodi’r dystiolaeth ganlynol gan Mrs Annie Jarvis, y milwr cyntaf ar restr y corfflu:
‘Mae’n fraint i mi anfon fy nghyfarchion a’m tystiolaeth atoch ar gyfer canmlwyddiant corfflu Treganna. Dyma ble rhoddais fy nghalon i’r Arglwydd yn ddeng mlwydd oed. Roedd hynny 75 o flynyddoedd yn ôl, ond mae atgof y noswaith honno dal gen i. Y diwrnod canlynol roeddwn i mor hapus ac roedd yn rhaid i mi ddweud wrth fy ffrindiau ysgol am bopeth, ond doedden nhw ddim yn deall yr hyn roeddwn i’n siarad amdano. Ers y Sul hwnnw ym mis Tachwedd, dw i wedi ymdrechu i ddilyn Iesu ac er i mi fethu weithiau, dw i wedi bod yn sicr o’i gariad a’i drugaredd.
‘Sut allaf ddiolch i Dduw am f’achub trwy gydol holl ddigwyddiadau fy mywyd? Dw i wedi profi llawenydd a hapusrwydd - tristwch a siom, fel sy’n digwydd i bawb. Ond gydag Iesu wrth f’ochr dw i wedi gallu mwynhau’r hapusrwydd ac yn ystod y tristwch dw i wedi teimlo ei freichiau yn dynn amdanaf yn fy nghefnogi. Mae’n rhaid i mi sôn hefyd am yr holl gyfleoedd dw i wedi cael i dystio trwy wisgo iwnifform Byddin yr Iachawdwriaeth. Dw i a’m gŵr wedi bod mor ffodus i weithio gyda phobl ifanc hefyd.
‘Nawr, yn fy henaint, dw i’n colli pobl imi garu a ffrindiau roeddwn i wedi rhannu cyfeillach gyda hwy ond hyd yn oed yn ystod cyfnodau o unigedd dw i’n gwybod bod yr Arglwydd yn agos. Dw i’n ddiolchgar iawn iddo, mae’n rhaid i mi ddweud “Diolch, Duw.”
‘Iddo ef y bo’r clod! Gweddïaf y bydd Duw yn bendithio ein corfflu yn y dyfodol, fel y mae wedi’i wneud yn y gorffennol.’
Gweddi
- Ar ôl ichi ddarllen tystiolaeth Mrs Annie Jarvis, ystyriwch y foment ichi roi eich calon i Iesu a diolchwch iddo am ei gariad diamod.
- Gweddïwch dros Dreganna Caerdydd, y bydden nhw’n cael eu bendithio ac y bydden nhw’n clodfori Duw ym mhopeth maen nhw’n eu gwneud.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.