Diwrnod 105: Gweddïo dros Nant-y-moel (1978)
Medi 30ain
Diwrnod 105 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Dewch at yr Arglwydd, profwch ei nerth; ceisiwch ei gwmni bob amser' (Salm 105:4).
1978
Mae cofnodion y Ganolfan Dreftadaeth Genedlaethol (IHC) yn nodi:
‘Ar Fehefin 6ed 1978, agorodd gorfflu Treharris eu neuadd newydd. Gorymdeithiodd aelodau’r corfflu o safle’r hen neuadd i’r neuadd newydd ble gawson nhw eu derbyn gan y grŵp dinesig. Cafodd y gân agoriadol ‘Heavenly Father, thou hast brought us/ Safely to the present day’, ei ganu i’r emyn dôn Gymraeg Hyfrydol.’
Mae’r Ganolfan Dreftadaeth Genedlaethol hefyd yn nodi:
‘Ar Fedi 7fed 1978, bu farw naddwr glo o Nant-y-moel. Ychydig o flynyddoedd ynghynt bu farw glöwr o Frymbo. Roedd y ddau wedi gorffen eu gwaith yn y pyllau glo er mwyn ymateb i alwad Duw o fod yn swyddog ym Myddin yr Iachawdwriaeth.
'Y dyn cyntaf oedd Thomas John Charles Bramwell Mills. Gwasanaethodd mewn 15 o gorffluoedd, 11 o benodiadau gwasanaethau cyhoeddus a chwblhaodd dwy flynedd o waith rhyfel.
‘Yr ail ddyn oedd Thomas Lloyd Pritchard. Gwasanaethodd mewn o leiaf 18 o benodiadau gwasanaethau cyhoeddus cyn mynd i weithio yn adran Salvationist Publishing and Supplies.’
Gweddi
- Gweddïwch dros y rheini sy’n dal i weithio yn lledaenu neges Iesu yn Nant-y-moel.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.