Diwrnod 104: Angerdd dros ein cymunedau lleol (1977)
Medi 29ain
Diwrnod 104 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Dwi’n mynd i ganu i’r Arglwydd tra bydda i byw! Moli fy Nuw ar gerddoriaeth tra bydda i. Boed i’m myfyrdod ei blesio. Dw i’n mynd i fod yn llawen yn yr Arglwydd' (Salm 104:33-34).
1977
Dyma atgofion yr Is-gyrnol George Pilkington (wedi ymddeol) o ddyddiau cynnar Corfflu Rhyl:
‘Roedd yr Uwch-gapteniaid Doris Langley a Maggie Singleton wedi bod mewn damwain car ac felly heb fod mewn penodiad. Ar ôl iddynt wella, gofynnon nhw a byddai modd iddynt ymweld ag aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Ngogledd Cymru. Cytunwyd bod hynny’n iawn.
‘Roedd un aelod wedi symud i fyw a gweithio yn Y Rhyl o Romford. Aeth i eglwysi yn ei iwnifform a chwrdd ag aelodau eraill o Fyddin yr Iachawdwriaeth. Dechreuodd gasglu pobl y gymuned ynghyd yn ei gartref er mwyn addoli. Ysgrifennodd at arweinydd yr adran, yr Uwch-gapten William Layton a oedd wedi’i leoli yn Lerpwl. Dywedodd wrtho am yr addoli oedd bellach yn digwydd yn neuadd seindorf y dref ar Stryd Windsor. (Dyma le mae neuadd Byddin yr Iachawdwriaeth dal i fod.) Gofynnodd am swyddog i ddod i bregethu. Dyma enghraifft o waith lleol ac arweinyddiaeth ganolog yn dod ynghyd. Cafodd yr Uwch-gapteniaid Doris Langley a Maggie Singleton eu penodi i Rhyl.
‘Cafodd y Capteiniaid George a Vera Pilkington eu penodi i’r Rhyl ar Fehefin 2il 1977. Roedd y Comisiynydd Geoffrey Dalziel yn gefnogwr brwd i ni’r swyddogion ac aelodau’r corfflu...Roedd sawl un wedi cael tröedigaeth ac roedd nifer o aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth wedi symud i’r ardal yn golygu bod niferoedd y corfflu yn cynyddu ac felly bu mwy o weithgareddau yn rhan o'r cynllun wythnosol. Yn ystod yr haf roedd gwasanaethau awyr agored ac un o uchafbwyntiau’r gwasanaethau oedd milwr yn canu yn y Gymraeg ac yn defnyddio ei gitâr i gyfeilio. Ei phriodas hi oedd y briodas ddwyieithog gyntaf yn y corfflu.’
Gweddi
- Gweddïwch y bydd Duw yn ein llenwi ag angerdd dros ein cymunedau er mwyn i ni eu gwasanaethu yn y ffordd gorau.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.