Diwrnod 103: Gweddïo dros Gasnewydd (1976)
Medi 28ain
Diwrnod 103 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Mae’r Arglwydd mor drugarog a charedig; mor amyneddgar ac anhygoel o hael!' (Salm 103:8).
1976
Ar gefn rhifyn Mai 1af o War Cry roedd erthygl o’r enw ‘Dyn a’i Waith: Golygfeydd o fywyd yr Is-gapten Stuart Day, arweinydd y corfflu yng Nghasnewydd’, yn cynnwys pum llun a’r capsiynau canlynol:
- Yr Is-gapten yn gweddïo gyda gwraig 92 mlwydd oed yn ei chartref.
- Casglu bara o archfarchnad leol a’i ddosbarthu i gartrefi anghenus.
- Yr Is-gapten a’i wraig yn arwain gwasanaeth bore Sul.
- Yr Is-gapten yn ei swyddfa yn cwrdd â dwy fenyw sydd angen cymorth.
- Gwerthu War Cry mewn tafarn.
Gweddi
- Gweddïwch dros gorfflu Casnewydd a’i waith o dystio yn y ddinas. Diolchwch i Dduw am y rheini sy’n dod o hyd i gymorth trwy’r caffi a’r siop elusen.
- Gweddïwch dros waith yr Uned Gwasanaethau Digartref a’i gwaith estyn allan yng nghanol y ddinas.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.