Diwrnod 102: Diolch am y rheini sydd wedi cael dylanwad ar ein bywydau (1975)
Medi 27ain
Diwrnod 102 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'O Arglwydd, clyw fy ngweddi; gwrando arna i’n gweiddi am help' (Salm 102:1).
1975
Roedd teyrnged i’r Uwch-gapten Ernest Bentley yn rhifyn Ionawr 25ain o War Cry:
‘Pan ail agorodd y corfflu yn Sgiwen, roedd sawl un wedi profi tröedigaeth. Ymysg y rheini roedd grŵp o bum brawd, ac un o’r brodyr hynny oedd Ernest Bentley. Roedd yn gerddor talentog ac roedd yn adnabyddus am chwarae’r consertina.
‘Ffurfiodd gerddorfa ieuenctid ym Mhorth San Pedr a thrwy gydol ei fywyd a hyd yn oed wedi iddo ymddeol cyfansoddodd ar gyfer pobl ifanc. Ond bydd yn cael ei gofio orau am y ffordd iddo drafod yr Ysgrythurau. Roedd wrth ei fodd yn pregethu ac yn addysgu.’
Gweddi
- Meddyliwch am a diolchwch i Dduw am y bobl hynny sydd wedi dylanwadu ar eich bywyd Cristnogol. Ystyriwch y ffyrdd gwahanol y gallwch chi ddylanwadu ar eraill i ddilyn Iesu.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.