Diwrnod 101: Gweddïo dros Fyddin yr Iachawdwriaeth ledled Cymru (1974)
Medi 26ain
Diwrnod 101 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Canaf am ffyddlondeb a chyfiawnder. Canaf gân i ti, o Arglwydd!' (Salm 101:1).
1974
Roedd erthygl yn War Cry ar Dachwedd 16eg 1974 yn trafod Cyngres Canmlwyddiant Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru. Y teitl oedd ‘Chwedeg wyth o Bobl yn Ildio yn ystod y Gyngres Gymreig’:
‘Dechreuodd yr heulwen wenu trwy’r glaw erbyn i 1,000 o aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth gwrdd yn Heol yr Amgueddfa, Caerdydd er mwyn gorymdeithio tuag at Bafiliwn Gerddi Sophia.
‘Roedd pob corfflu yn cael ei gynrychioli a dechreuwyd yr Ŵyl Canmlwyddiant gyda chyflwyniad o faneri pob corfflu. Soniodd yr Uwch-gapten William Davies o gorfflu Abertawe am waith anhygoel Duw trwy gydol hanes Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru...
‘Yn dilyn sylwadau cychwynnol y Cadfridog cafwyd amser o dawelwch i gofio’r chwaraewr band Dai Barry o Abercarn. Bu farw wrth gario baner ei gorfflu yn ystod y prynhawn. Cafodd baner corfflu Abercarn lle amlwg trwy gydol y dydd Sul.
Roedd neges yn yr un rhifyn o War Cry gan y Comisiynydd Prydeinig Geoffrey Dalziel o dan y teitl ‘Neges i Gymru’:
‘Nid ydw i’n ysgrifennu gan ddefnyddio ffeithiau hanesyddol yn unig, ond hefyd o’m profiad personol. Rydw i a Mrs Dalziel wedi gorymdeithio ar yr un strydoedd gyda’r Cymry...yn ystod blynyddoedd o dlodi.
‘Yn ystod ein cyfnod yng Nghorfflu Trewiliam, yng Nghymoedd y Rhondda, dringon ni i ben y mynydd er mwyn gwylio’r dydd yn gwawrio. Roedden ni’n gobeithio y byddai’r goleuni yn ein calonnau yn gallu cyrraedd y cwm tywyll oddi tannon ni.
‘Felly wrth i’r goleuni mewnol sydd gan aelodau Cymraeg Byddin yr Iachawdwriaeth dywynnu, rydym yn llawenhau yn ystod y canmlwyddiant hwn ac yn hollol grediniol y bydd y pethau gwych hyn yn parhau i ddigwydd. Dyma yw ein gweddi.’
Gweddi
- Gweddïwch am y ‘goleuni mewnol’ fel y mae’r Comisiynydd Dalziel yn ei ddisgrifio.
- Gweddïwch y bydd y goleuni hwn yn dal i dywynnu yn ystod dathliadau Byddin yr Iachawdwriaeth yn 150.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.