Diwrnod 100: Gweddïwch dros greadigrwydd (1973)
Medi 25ain
Diwrnod 100 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Achos mae’r Arglwydd mor dda! Mae ei haelioni yn ddiddiwedd; ac mae’n aros yn ffyddlon o yn genhedlaeth i’r llall' (Salm 100:5).
1973
Roedd William Cooper (Comisiynydd Prydeinig 1964-1969) yn swyddog arloesol a oedd yn barod i arbrofi. Yn 1965, sefydlodd y Rheolaeth Leol cyntaf, a hynny yn Abertawe. Mae’n siŵr mae hwn oedd y cynllun peilot oherwydd cafodd chwe Rheolaeth Leol arall ei sefydlu yn ystod y flwyddyn a ddilynodd. Cafodd un o’r rhain ei sefydlu yn Wrecsam.
Yn ôl yr Anianawd Grym, 1965-1971, roedd y ddwy Reolaeth Leol yn cynnwys:
Rheolaeth Leol Abertawe: Abertawe, Aberystwyth, Rhydaman, Gorseinon, Llanelli, Doc Llanelli, Aberdaugleddau, Treforys a Chlydach, Doc Penfro, Sgiwen, Stryd Fawr Abertawe, Abertawe Plasmarl, Dinbych y Pysgod.
Rheolaeth Leol Ardal Wrecsam: Wrecsam, Caernarfon, Cefn Mawr, Caer, Coedpoeth, Cei Connah, Caergybi, Croesoswallt, Rhosllannerchrugog, Sir Amwythig, Y Trallwng.
Gweddi
- Gweddïwch dros greadigrwydd o ran meddyliau, geiriau a gweithredoedd, ac y bydd hyn yn cymorth i gorffluoedd wrth rannu’r newyddion da yn eu cymunedau.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.