Diwrnod 10: Bendith Hwlffordd, Aberdaugleddau, Penfro ac Arberth lle gwerthwyd War Cry (1883)
27ain o Fehefin
Diwrnod 10 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Ti’n gwrando ar lais y rhai sy’n cael eu gorthrymu yn crefu arnat, o Arglwydd. Byddan nhw’n teimlo’n saff am dy fod ti’n gwrando arnyn nhw’ (Salm 10:17).
1883
‘Dechreuodd Byddin yr Iachawdwriaeth yn Neyland ar Ebrill 7fed 1883. Roedd y dorf o bobl mor fawr roedd yn rhaid troi pobl i ffwrdd o’r barics. Cynhaliwyd y cyfarfodydd yn Neuadd y Pentref yn Neyland. Roedd Corfflu Neyland o hyd yn wynebu trafferthion, yn enwedig yn y Gaeaf gan nad oedd unrhyw oleuadau stryd. Roedd hyn yn her o ran Cyfarfodydd Awyr Agored, ond gyda chymorth caredig trigolion y pentref, roedd modd goresgyn yr her hon. (Nid oes gennym nwy yn y pentref hwn, ac felly pan fyddwn ni’n gorymdeithio ar gyfer ein cyfarfodydd Awyr Agored mae pobl y pentref yn codi eu llenni fel ein bod yn cael goleuni eu tai.)’
(War Cry Tachwedd 7fed, 1883)
Cafodd y gofal a ddangoswyd gan Gorfflu Trealaw ei werthfawrogi gan y bobl leol yn dilyn y trychineb pwll yn 1880, ond yn 1883 cafodd pedwar o filwyr y Corfflu eu harestio am gynnal cyfarfodydd awyr agored yn y pentref. Serch hynny, ‘pan ddaeth y pedwar adref, cawson nhw groeso cynnes’.
(War Cry Hydref 3ydd, 1883)
Gweddi
- Gweddïwch dros yr ardaloedd lle mae presenoldeb pennaf Byddin yr Iachawdwriaeth yn ddibynnol ar rywun yn gwerthu ‘War Cry’.
- Gweddïwch dros y weinidogaeth bwysig hon sy’n ffordd o efengylu.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.