Diwrnod 1: Wrth i ni ddechrau ar antur newydd… (1874)
18fed o Fehefin
Diwrnod 1 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
‘Mae’r Arglwydd yn gofalu am y rhai sy’n ei ddilyn’ (Salm 1:6).
1874
‘Cychwyn Cangen Cenhadaeth yng Nghaerdydd, De Cymru
‘Ers sawl mis bellach mae grŵp o gyfoedion wedi bod yn pryderu am les ysbrydol y rheini nad ydynt wedi’u hachub yn y dref bwysig hon. Maent wedi bod yn estyn eu dwylo allan a galw “Dewch draw i’n helpu” ...
‘Yn yr Hydref, wrth dreulio amser yng nghwmni ffrind da, cawsom ein hannog i gymryd goruchwyliaeth dros Genhadaeth yno. Roedden ni’n petruso. Roedd sawl rhwystr yn ein ffordd - rhwystrau a oedd yn ymddangos yn amhosib eu goresgyn ar y cychwyn... Mae’n ffrindiau yn y Limehouse wedi rhoi caniatâd i ni gael benthyg y Brawd Allen ac ar y 15fed o Dachwedd, agorodd ei gomisiwn.
‘Dylwn nodi yma fod y Neuadd Efengylu wedi cael ei rhoi i ni gan yr Ymddiriedolwyr i gynnal gwasanaethau’r Genhadaeth... Cafodd ei phrynu yn ddiweddar gan John Cory, Ysw., i’w defnyddio at ddibenion yr Efengyl. Bydd John Cory wrth ei fodd yn gwybod bod y lle yn cael ei ddefnyddio fel man geni i nifer o eneidiau...A fydd ein ffrindiau a’n darllenwyr, dros y mis nesaf o leiaf, gystal â gweddïo am fendith drosom yng Nghaerdydd?’
(The Christian Mission Magazine)
Chwe mis yn ddiweddarach, cofnodwyd yn y Christian Mission Magazine, stori bersonol am un o’r rheini a ddaeth i ddilyn Crist yng Nghaerdydd:
‘Roedd gŵr a gwraig a oedd wedi bod yn byw mewn pechod, yn bresennol yno. Tra fy mod i’n pregethu, teimlodd y ddau fel y bydden nhw’n cwympo i uffern erbyn diwedd yr hyn a oedd gennyf i’w ddweud. Siaradais gyda’r fenyw, ac ar unwaith penderfynodd rhoi ei bywyd i Iesu. Yna, gofynnais i’r dyn os oedd tangnefedd ganddo. Dywedodd, “Dyna beth rydw i eisiau. Alla i ddim bod yn fwy diflas, o fod allan o uffern.” Penliniodd wrth ymyl ei wraig ac yn sydyn, gwaeddodd, “mae gen i dangnefedd.” Clod i Dduw!’
(The Christian Mission Magazine)
Gweddi
- Heddiw rydym yn cychwyn ar 150 o ddiwrnodau o weddi sy’n ein harwain at ddiwrnod o weddi ar Dachwedd 15fed 2024.
- Mae’r Pencadlys Rhanbarthol yn dal i fod yng Nghaerdydd. Gweddïwch dros y tîm yn y Pencadlys Rhanbarthol.
- Gan efelychu’r cais am weddi yn 1874, gweddïwch yn benodol am fendithion helaeth arnynt i gyd.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.