Diwrnod 37: Gweddïo dros y rheini sydd angen cefnogaeth (1910)
Gorffennaf 24ain
Diwrnod 37 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
‘Disgwyl am yr arglwydd! Dos y ffordd mae e’n dweud a bydd e’n rhoi’r gallu i ti feddiannu’r tir. Byddi’n gweld y rhai drwg yn cael eu gyrru i ffwrdd.’ (Salm 37:34).
1910
Yn y flwyddyn hon, agorwyd Tŷ Diwydiannol i Fenywod yng Nghaerdydd. Bron i 20 o flynyddoedd yn gynharach, yn 1892, daeth Bessie Harding i dŷ arall yng Nghaerdydd a gafodd ei redeg gan Fyddin yr Iachawdwriaeth. Gellir dod o hyd i’w stori drist a chymhleth mewn cyfriflyfr yn cynnwys iaith ag agwedd sy’n nodweddiadol o Oes Fictoria.
Llyfr Datganiad Merched III (Gwlad)
- Enw: Bessie Harding
- Man geni: India
- Ers pryd yn gwympedig? 3 mis
- Achos y cwymp cyntaf? Wedi dyweddïo â dyn ifanc – wedi ei cham-arwain.
- Wedi dechrau yfed? Nac ydy
- Wedi bod yn anffyddlon? Nac ydy
- Wedi bod i’r carchar? Nac ydy
- Wedi bod mewn tai eraill, ymhle? Ydy, Caerloyw
- Gydag afiechyd, neu wedi bod? Nac ydy
- Tad? Nac oes
- Ers pryd yn farw? 11 o flynyddoedd
- Mam? Oes, yn Awstralia
- Brodyr? 3
- Chwiorydd? 4
- Wedi priodi? Nac ydy
- Plant? Nac oes
- Yn feichiog? Ydy
- Wedi bod i wasanaeth Byddin yr Iachawdwriaeth? Ymhle? Ydy, Penarth
- Nodweddion ychwanegol: Mae Bessie yn ferch gyflym ac egnïol.
Datganiad Olaf
- I ble yr anfonwyd? Tŷ achub, Caerdydd
- Golwg personol: Byr, gwedd golau, talcen amlwg, llygaid glas.
- Tystiolaeth ei bod wedi cael ei hachub? Proffesedig
- Ymddygiad yn y tŷ: Da
- Anianawd a galluoedd: Tymer tanbaid, twyllodrus, gweithiwr teg, gwniadwraig glyfar.
- Rheswm dros adael y tŷ? Genedigaeth
- Dyddiad gadael: Tachwedd 30ain, 1892
Sylwadau
Cafodd Bessie ei magu yn barchus ac yn ferch ysgol Sul. Roedd hi’n bryder i’w ffrindiau, yn wyllt a heb reolaeth. Cwrddodd â dyn mordwyol ac aeth i fyw gydag ef am wythnos, a gadawodd am y môr yn addo y byddai’n dod adref a’i phriodi. Gan ei bod hi’n feichiog, daeth yma gydag Uwch-arolygydd yr ysgol Sul. Rydym yn credu bod Bessie wedi dysgu gwers na fyddai’n ei hanghofio yn hawdd iawn
Gweddi
- Gweddïwch dros bawb sy’n troi at Fyddin yr Iachawdwriaeth pan fydd angen cymorth arnynt.
- Gweddïwch y bydden nhw’n dod o hyd i gariad a chymorth ymarferol.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.