Diwrnod 26: Bendith y sawl sydd wedi eu trawsnewid o ganlyniad i’w ffydd Gristnogol (1899)

13eg o Orffennaf

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 26 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Archwilia fi, Arglwydd; gosod fi ar brawf! Treiddia i’m meddwl a’m cydwybod. Dw i’n gwybod mor ffyddlon wyt ti – a dyna sydd yn fy ysgogi i fynd ymlaen’ (Salm 26: 2-3).

1899

‘Siaradodd gwraig y tafarnwr gyda’r is-gapten gan fod rhai o’i chwsmeriaid gorau nawr yn aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth ac felly yn cymryd eu cyflogau adref yn hytrach na’u gwario yn y dafarn.’ 

(War Cry Awst 6ed, 1887)

Cafodd yr is-gapten a oedd yn gyfrifol am Gymdeithas Ebeneser yn Neiniolen ddim ei ddigalonni gan wraig y tafarnwr. Cafodd ei annog gan y newid go iawn - trawsffurfiad - fe welodd filwyr newydd. Er i’r llwyddiant cychwynnol fethu a chaewyd y Gymdeithas, fe ail agorwyd ar Hydref 14eg, 1899, a chafodd milwyr newydd eu hymrestru. 

Gweddi

  • Gweddïwch heddiw am rywun rydych chi’n ei adnabod sydd wedi profi trawsnewidiad gan yr Ysbryd Glân yn ei ffordd o fyw. 
  • Os mai chi yw’r person hwnnw - rhowch glod am ei rym yn eich bywyd chi.

Discover more

150 diwrnod o weddi i nodi 150 mlynedd o Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru.

150 days of prayer to mark 150 years of The Salvation Army in Wales.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Related tags