Diwrnod 139: Gweddïo dros ddathliadau (2012)
Tachwedd 3ydd
Diwrnod 139 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
'Archwilia fi, O Dduw, i weld beth sydd ar fy meddwl; Treiddia’n ddwfn, a deall fel dw i’n poeni. Edrych i weld a ydw i’n gwneud rhywbeth o’i le, ac arwain fi ar hyd yr hen lwybr' (Salm 139:24 a 24).
2012
Ysgrifenna’r Is-gyrnol Sandra Moran, cyn arweinydd yr adran:
‘Daeth Cadfridog Linda Bond i ymweld ag Adran De a Chanolbarth Cymru yn 2012. Paratôdd yr Adran yn drylwyr a threfnwyd amserlen lawn iddi gael gweld gwahanol agweddau o Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru.
‘Ar y Dydd Sadwrn, roedd diwrnod llawn o ddigwyddiadau yn Nhrewiliam ac roedd pobl yn hynod gyffrous i ddod i gwrdd â’r Cadfridog. Roedd hi’n gyfeillgar iawn ac yn dangos diddordeb yn y bobl oedd yn dod i siarad gyda hi - aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth, cymdogion a grwpiau o bobl ifanc bywiog oedd yn ysu cael gwybod beth oedd yn mynd ymlaen. Penderfynon nhw fod Byddin yr Iachawdwriaeth yn OK, a daethon nhw i mewn i fwynhau’r dathliadau.
‘Roedd gwirfoddolwyr yn gwneud celf a chrefft tra bod eraill ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a oedd gan bobl. Roedd adloniant i blant a babanod hefyd. Daeth ‘consuriwr’ Cristnogol i ddiddanu tra hefyd yn dysgu ac yn herio ei gynulleidfaoedd trwy gydol y dydd.
‘Roedd lluniaeth ar gael hefyd wrth gwrs! Y noswaith honno cawsom Ddathliad Ffydd enfawr. Cymerodd côr a band ieuenctid yr adran ran. Cafwyd tystiolaethau, unawdwyr, darllen o’r Ysgrythur ac wrth gwrs, medli o ganeuon Cymraeg i orffen y noson. Fe wnaeth y gynulleidfa gyfan ymuno yn yr addoli. Cafodd gwasanaethau’r Sul eu cynnal ym Mhort Talbot.’
Gweddi
- Diolchwch i Dduw am y cyfnodau hynny pan fydd pobl yn dod ynghyd i ddathlu ein ffydd.
- Yn Gyda’n Gilydd 24 a gynhaliwyd yng Nghasnewydd yng Ngorffennaf roedd cymaint o lawenydd wrth inni ddod gyda’n gilydd i ddathlu fel aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth. Molwch Dduw! Ganddo Ef y daw’r holl fendithion.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.